Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Person yn eistedd ar fainc o dan coeden

Mae arbenigwyr rhyngwladol, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi llythyr yng nghyfnodolyn meddygol The Lancet yn galw am ddull unedig o fynd i’r afael â’r her byd-eang, unigrwydd.

Wrth ymateb i'r pryderon cynyddol am gyfraddau ac effeithiau unigrwydd, mae arbenigwyr rhyngwladol o brifysgolion a sefydliadau ymchwil a iechyd cyhoeddus wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Mae'r llofnodwyr yn cynnwys arbenigwyr o'r Sefydliad Iechyd Cyhoeddus yn Iwerddon; Prifysgol Columbia; Prifysgol George Mason; Prifysgol Auckland; Prifysgol Abertawe; Prifysgol Ulster; Ysbyty St James; Prifysgol Chicago; Coleg y Drindod Dulyn; Coleg Boston; Prifysgol California; Vrije Universiteit Amsterdam; a Phrifysgol Brunel Llundain.

Mae'r llythyr yn seiliedig ar drafodaethau ymchwilwyr rhyngwladol mewn cyfarfod a gynhaliwyd ym Melffast gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd yn Iwerddon.

Er bod sifftiau demograffig yn awgrymu y bydd nifer y bobl sy'n profi unigrwydd yn cynyddu, dywed arbenigwyr ei bod yn bwysig cydnabod nad yw'r mwyafrif o oedolion hŷn yn unig yn barhaol a bod oedolion ifanc hefyd yn cael eu heffeithio.

Yn ôl arbenigwyr, gellir diffinio unigrwydd fel “profiad negyddol goddrychol sy’n deillio o gysylltiadau ystyrlon annigonol”, ac maent wedi galw am ddull safonol o ddiffinio a mesur unigrwydd i helpu i lywio’r rhai sy’n datblygu polisi a gwasanaethau yn y maes hwn.

Ychwanegodd y grŵp arbenigol fod gan elusennau, sectorau cymunedol a llywodraethau, sy'n cyflwyno rhaglenni yn aml dystiolaeth annigonol i gynllunio ohoni ac angen neges fwy cydlynol o ymchwil, a sylfaen dystiolaeth gryfach.

Ac er bod angen mwy o ymchwil i ddarganfod canlyniadau llawn unigrwydd, mae'r dystiolaeth yn dangos cysylltiad ag iechyd a lles gwael, afiechydon anhrosglwyddadwy, ac iselder.

Meddai’r Athro Vanessa Burholt o’r Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol Mhrifysgol Abertawe: “Mae ein dealltwriaeth o unigrwydd yn gyfyngedig o hyd ac yn aml yn ystrydebol. Er ei fod yn aml yn cael ei ddrysu â diffyg ymgysylltiad cymdeithasol, y gwir amdani yw y gall rhai pobl â llawer o ffrindiau deimlo'n unig o hyd ac efallai na fydd y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain.

Er bod unigrwydd yn brofiad personol iawn, nid mater i unigolion yn unig yw mynd i’r afael ag unigrwydd ond mae hefyd yn fater i iechyd y cyhoedd a’r gymdeithas gyfan. Trwy adeiladu’r dystiolaeth a chyfuno arbenigedd, gallwn gefnogi llywodraethau a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus i fynd i’r afael â’r her hon.”

Rhannu'r stori