Dyddiad cau: 19 Mehefin 2024

Gwybodaeth Allweddol

Ffi Ddysgu YN UNIG Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Ysgoloriaeth MSc drwy Ymchwil: #oseidiafi/#ifyougoigo: Herio stereoteipiau a rhwystrau i gyfranogiad i annog rhagor o fenywod i fod yn fwy actif yn fwy aml

Darparwr y cyllid: Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen

Meysydd pwnc: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff - gweithgarwch corfforol newid ymddygiad; iechyd a lles; seicoleg 

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr y prosiect: 

  • Yr Athro Joanne Hudson (Prif Oruchwyliwr)
  • Yr Athro Kelly Mackintosh (Ail Oruchwyliwr yn ystod Cyfnod Mamolaeth) a'r Athro Melitta McNarry (Ail Oruchwyliwr)
  • Dr Amie Richards (Amie.richards@abertawe.ac.uk)

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: MSc drwy Ymchwil mewn Gwyddor Chwaraeon

Dull Astudio: Amser llawn 

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae'r prosiect MSc hwn yn cynnig cyfle unigryw i unigolyn weithio o fewn awdurdod lleol i werthuso ei fenter #oseidiafi. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr a darparwyr gwasanaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ymchwilwyr yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS, sef cydweithrediad Cymru gyfan rhwng pob un o'r wyth sefydliad addysg uwch a Chwaraeon Cymru), a menywod sy'n mynychu sesiynau #oseidiafi/#ifyougoigo, er mwyn cynnal gwerthusiad manwl o'r rhaglen.

Nod y fenter #oseidiafi/#ifyougoigoyw annog rhagor o fenywod i fod yn fwy actif yn fwy aml ledled awdurdod lleol Torfaen.  Fel rhan o'r fenter, mae'r Tîm Datblygu Chwaraeon yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i gynnal rhaglen gweithgarwch corfforol ar gyfer menywod 18-59 oed, sydd wedi nodi o leiaf un rheswm yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl sydd, yn eu barn nhw, yn cyfyngu ar eu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol, ymarfer corff a/neu chwaraeon. Mae'r fenter #oseidiafi sydd yn rhad ac am ddim ac yn para 10 wythnos yn rhoi cyfle i fenywod lleol gymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff wythnosol mewn grŵp a chael hyfforddiant personol, mentora a chyngor ar faeth i'w helpu i fabwysiadu ffordd iachach o fyw yn y tymor hir. Gall menywod ar y rhaglen hefyd fanteisio ar ddosbarthiadau a champfeydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a chânt eu cefnogi i gysylltu â chlybiau chwaraeon cymunedol lleol.  

Mae buddion gweithgarwch corfforol i iechyd meddwl yn hysbys iawn, ond er gwaethaf hynny, mae lefelau isel o weithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith menywod, yn parhau.  Yn aml, dylanwadir ar ymddygiad gan amrywiaeth o ffactorau, sef rhyngweithiadau rhwng syniad unigolion o'u gallu, y cyfleodd sydd ar gael a'u cymhelliant. Nod #oseidiafi/#ifyougoigo yw cael gwared ar y rhwystrau ymarferol a gweithio i newid sut mae menywod yn teimlo ac yn meddwl am weithgarwch corfforol, ymarfer corff a chwaraeon. Mae tystiolaeth a dealltwriaeth yn dangos bod menywod yn llawer mwy tebygol o wneud ymarfer corff os bydd ganddynt gwmni wrth wneud hyn. Mae'r egwyddor hon o gefnogaeth gan gymheiriaid/cwmnïaeth, ynghyd â darparu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, mewn amgylchedd cymdeithasol-gynhwysol wedi'i gefnogi gan weithwyr proffesiynol, wrth wraidd dyluniad y fenter.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithredu â thîm Datblygu Chwaraeon Torfaen gan dreulio ei amser rhwng y safle ym Mhont-y-pŵl a safle WIPAHS, a bydd ganddo weithle yn yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe. Bydd yn gyfrifol am gasglu data drwy amrywiaeth o ddulliau (ansoddol a meintiol) sy'n asesu effeithiau'r rhaglen ar iechyd corfforol, iechyd meddyliol a chyffredinol a lles y menywod sy'n cymryd rhan yn #oseidiafi ac, yn y pen draw, bydd yn goruchwylio gwerthusiad cynhwysfawr o'r rhaglen.

Cymhwyster

Rhaid bod gan ymgeiswyr radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2.1) mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff neu ddisgyblaeth debyg berthnasol. Os ydych chi'n gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymharol (gweler cymwysterau penodol i wledydd). Sylwer y gall fod angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn rhugl yn Saesneg.

Oherwydd cyfyngiadau cyllidoar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffïoedd dysgu'r DU a threuliau ymchwil ychwanegol.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Gwyddor Chwaraeon / MSc drwy Ymchwil / Amser llawn / 1 flwyddyn / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS602 - Challenging Stereotypes'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV (2 dudalen)
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol (2 dudalen ar y mwyaf) gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych ymholiadaucysylltwch â Dr Amie Richards (Amie.richards@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.