Dyddiad cau: 15 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Ysgoloriaeth PhD wedi'i Hariannu'n Llawn gan Brifysgol Abertawe a Chlwb Rygbi’r Scarlets: In-game statistics associated with match outcome in professional Rugby Union (RS598)

Darparwr y cyllid: Prifysgol Abertawe a Chlwb Rygbi’r Scarlets

Meysydd pwnc: Peirianneg, gwyddor chwaraeon, gwyddor data, ffiseg, mathemateg

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Gorffennaf 2025 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin) 

Goruchwylwyr:  

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Gwyddor Chwaraeon

Dull Astudio: Amser llawn 

Disgrifiad o'r prosiect:

Nod y prosiect PhD hwn yw archwilio a yw dangosyddion perfformiad allweddol mewn gemau'n ffordd effeithiol o ragfynegi canlyniad gemau mewn rygbi’r undeb ar lefel elît yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC). 

Bydd yr ymgeisydd yn adolygu dangosyddion perfformiad allweddol presennol ac yn dadansoddi sut maent yn dylanwadu ar ganlyniad gemau. Bydd yr ymgeisydd yn datblygu ac yn mireinio technegau dysgu peirianyddol i ganfod patrymau neu baramedrau cudd yn y data er mwyn rhagfynegi'n ystadegol ganlyniad gemau a safleoedd yn y gynghrair.  I ddechrau, bydd y modelau hyn yn seiliedig ar ddata a etifeddwyd gan ein partner yn y prosiect, Clwb Rygbi'r Scarlets.  Mae'r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth am athletwyr unigol, y tîm, strategaethau a lles o'r 5 tymor blaenorol. Caiff y modelau eu dilysu/mireinio gan ddefnyddio profion i wirio effeithiolrwydd y data a etifeddwyd ac yna cânt eu cymhwyso i dymor 24-25 presennol yr URC. 

Bydd yr ymgeisydd yn gweithio mewn amgylchedd rygbi proffesiynol a disgwylir iddo lynu wrth reolau llym o ran dim ymyrraeth.  Bydd yn gyfrifol am gasglu data aml-sianel o ystod o ddyfeisiau micro-dechnoleg sy'n asesu perfformiad ac yn monitro llwyth hyfforddiant. Yn y pen draw, bydd yn goruchwylio ansawdd, tarddiad a churadu data mewn cronfa ddata safonol.

Adnoddau/cyfleusterau sydd ar gael: Labordai A-STEM (biomecaneg a ffisioleg ymarfer corff)/offer dadansoddi perfformiad a monitro llwyth hyfforddiant Clwb Rygbi'r Scarlets.

Cymhwyster

Rhaid bod gan ymgeiswyr  radd israddedig ar lefel 2.1 mewn disgyblaeth STEM. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth, ond nid oes gennych radd o'r DU, gallwch wirio ein cymhariaeth o ofynion mynediad (gweler cymwysterau gwledydd penodol). Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch rhuglder yn yr iaith Saesneg. 

Mae profiad o MATLAB, PYTHON a GPS Data Collection yn ddymunol.

Oherwydd cyfyngiadau cyllido, ar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch eich cymhwysedd academaidd yn seiliedig ar y gymhariaeth uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gan gynnwys y ddolen we ar gyfer yr ysgoloriaeth(au) sydd o ddiddordeb i chi. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu’r DU a chyflog blynyddol ar raddfa UKRI (£18,622 ar hyn o bryd ar gyfer 2023/24).

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Gwyddor Chwaraeon / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Gorffennaf

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS598 - Professional Rugby Union'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV 
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol) 
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect. 
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol) 

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'r Athro Liam Kilduff (l.kilduff@abertawe.ac.uk/ Dr Rowan Brown (m.r.brown@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.