Dyddiad cau: 15 Mai 2024

Gwybodaeth Allweddol

Darparwr y cyllid: Prifysgol Abertawe

Maes/meysydd Pwnc: Seicoleg, Gwyddor Amgylcheddol / Peirianneg, Peirianneg Amgylcheddol (Adrannau Peirianneg Fecanyddol a Seicoleg) 

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Gorffennaf 2025 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Mehefin) 
  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr: Yr Athro Ian Walker, Yr Athro Matthew Davies

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: MSc drwy Ymchwil mewn Seicoleg

Dull Astudio: Amser llawn 

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae cynnal digwyddiadau mawr yn fusnes mawr, sy'n werth >£40 biliwn yn y DU yn unig. Fodd bynnag, mae gan y diwydiant digwyddiadau effaith fawr ar yr amgylchedd ac mae ymgyrch gynyddol i leihau hyn.  Er enghraifft, yn y diwydiant adloniant, mae Coldplay wedi addo lleihau ei allyriadau 50%. 

Os ydym yn mynd i symud ymlaen at gymdeithas gynaliadwy, mae angen i beirianwyr a gwyddonwyr cymdeithasol gydweithio er mwyn sicrhau bod datblygiadau technoleg yn effeithiol wrth leihau effeithiau amgylcheddol. Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin sgiliau yn y ddwy ddisgyblaeth.

Bydd y myfyriwr yn gweithio gyda Front Runner (trefnydd Hanner Marathon Abertawe) i fesur effaith amgylcheddol Hanner Marathon Abertawe gan ddefnyddio’r asesiad cylch bywyd (LCA) ac effaith y newidiadau a wnaed gan y trefnydd i wneud y digwyddiad yn fwy cynaliadwy.  Cefnogir y rhan hon o'r ymchwil gan oruchwyliwr yn yr Adran Peirianneg Fecanyddol.

Bydd ail ran yr ymchwil yn mesur ymateb cystadleuwyr a noddwyr i'r newidiadau hyn er mwyn cefnogi gwaith i ddadansoddi cylch bywyd canlyniadol y newidiadau (e.e. beth fydd yn digwydd os na fydd y digwyddiad yn cynnig crysau T am ddim mwyach? - a fydd arbediad go iawn neu a fydd pobl yn dewis digwyddiad gyda chrysau T am ddim yn hytrach na'r un dan sylw?) 

Dyma brosiect proffil uchel gyda'r cyfle i rannu canlyniadau'r ymchwil â chynulleidfa eang drwy nawdd Prifysgol Abertawe i'r hanner marathon a disgwylir y byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ym ymgysylltu'n broffesiynol â thimau cyfryngau a marchnata lle y bo angen. 

Oherwydd natur drawsddisgyblaethol y prosiect hwn, disgwylir y bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad mewn rhai meysydd a llai o brofiad mewn meysydd eraill.  Y peth pwysicaf yw bod yr ymgeisydd yn fodlon ymgysylltu â chynnwys a phobl y tu allan i'w feysydd pwnc a bod ganddo ddealltwriaeth eang o wahanol feysydd pwnc hyd yn oed os nad yw wedi astudio'r meysydd hynny.

E-bostiwch ymholiadau i'r Athro Ian Walker:  ian.walker@abertawe.ac.uk

Cymhwyster

Rhaid bod gan ymgeiswyr radd israddedig ar lefel 2.1 neu'n uwch (neu gymhwyster cyfwerth o'r tu allan i'r DU fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe)  (gweler cymwysterau gwledydd penodol). O ystyried natur drawsddisgyblaethol y radd Meistr hon, hoffem annog graddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth i gyflwyno cais.  Fodd bynnag, rydym yn annog yn benodol ymgeiswyr sydd â chymhwyster israddedig mewn Seicoleg, Marchnata, Peirianneg (gyda phrofiad LCA) a Gwyddor Amgylcheddol i gyflwyno cais. Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hyfedredd yn yr iaith Saesneg.

Oherwydd cyfyngiadau cyllidoar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu'r DU ac ariantal gwerth £18,622.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Seicoleg / MSc drwy Ymchwil / Amser llawn / 1 Flwyddyn / Gorffennaf (neu Hydref)

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS601 - Environmental Impacts'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:  

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol sy'n amlygu profiad (ddim o angenrheidrwydd o natur academaidd) o weithio gyda phobl a chanddynt setiau sgiliau gwahanol a pham rydych chi o’r farn eich bod yn addas ar gyfer y radd MSc hon. Amlygwch unrhyw feysydd lle mae gennych brofiad blaenorol a allai fod yn berthnasol i'r prosiect hwn (asesiad cylch bywyd, cynnal arolygon ac ati).
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'r Athro Ian Walker (ian.walker@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.