Dyddiad cau: 24 Mai 2024 (23:59 BST)

Gwybodaeth Allweddol

Ysgoloriaeth PhD Wedi'i Hariannu'n Llawn: Dadansoddiad mecanistig in vivo o lwybrau ymestyn hyd oes gan ddefnyddio cyfansoddion senolytig ym model heneiddio pysgod abwyd gwyrddlas Affricanaidd

Darparwyr cyllid: Prifysgol Abertawe

Meysydd pwnc: Cyffuriau senolytig a heneiddio

Dyddiad Dechrau'r Prosiect:  

  • 1 Hydref 2024 (bydd cofrestru'n agor yng nghanol mis Medi) 

Goruchwylwyr

Rhaglen astudio sy'n cydweddu: PhD mewn Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio

Dull astudio: Amser llawn

Disgrifiad o'r prosiect: 

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gynnig ei pumed garfan o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil wedi'u hariannu'n llawn (SURES) ar gyfer astudio am radd doethur amser llawn ym mis Hydref 2024. 

Mae heneiddio'n her economaidd a chymdeithasol sylfaenol gynyddol gan y bydd strwythur oedran ein poblogaeth yn newid yn drawiadol yn ystod y ganrif hon. Er bod gwelliannau sylweddol mewn amodau byw a gofal iechyd yn cynyddu disgwyliadau oes pobl, mae'n eithriadol o brin heneiddio mewn iechyd da ac i bob pwrpas nid oes unrhyw unigolyn yn cyrraedd 85 oed heb glefyd. Felly, mae ymchwil i ddarganfod cyffuriau'n canolbwyntio ar ymyriadau posib sy'n gwella hyd iechyd pobl. Mae un maes ymchwil wedi canolbwyntio ar atal celloedd rhag heneiddio, ac felly mae ymyriadau sy'n ymddwyn fel cyffuriau senolytig wedi datblygu'n gyflym.  Un cyffur o'r fath yw Resveratrol, cyfansawdd planhigyn naturiol y credir ei fod yn atal celloedd rhag heneiddio drwy ei weithrediad ar SIRT1.  

Nod penodol y prosiect yw defnyddio Resveratrol, a chyfansoddion senolytig cysylltiedig, i nodi llwybrau heneiddio mewn model heneiddio in vivo newydd o bysgod abwyd gwyrddlas Affricanaidd (Nothobranchius furzeri). Bydd y prosiect yn ymchwilio i effaith rhoi dosau o Resveratrol a chyfansoddion tebyg yng nghanol bywyd ar farcwyr hyd oes a heneiddio mewn pysgod abwyd gan ddefnyddio dilyniant RNA ac ymagweddau proteomig. Ar ôl i lwybrau newydd gael eu nodi, bydd y prosiect yn golygu genynnau (CRISPR/Cas9) o bysgod abwyd i ddilysu'r mecanweithiau newydd hyn o atal celloedd rhag heneiddio.  

Bydd y prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng labordy Murray ym Mhrifysgol Abertawe, a labordy Faragher, ym Mhrifysgol Brighton. 

Cymhwyster

Rhaid bod ymgeiswyr wedi ennill, neu'n disgwyl ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu radd Meistr gyda Rhagoriaeth. Os ydych yn gymwys i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth ond nid oes gennych radd yn y DU, gallwch wirio ein gofynion mynediad cymaradwy (gweler cymwysterau penodol i wledydd). Sylwer y gall fod angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hyfedredd Iaith Saesneg. 

  • Lle bydd gan ymgeiswyr fwy nag un radd Meistr, rhaid eu bod wedi cyflawni Rhagoriaeth yn y radd sy'n fwyaf perthnasol i'r maes astudio PhD arfaethedig.
  • Os ydych yn astudio am gymhwyster ar lefel gradd Meistr ar hyn o bryd ac rydych yn disgwyl derbyn dyfarniad ar ôl 01/10/2024, dylai fod gennych o leiaf radd anrhydedd ail ddosbarth uwch.
  • Dylech allu dangos llwyddiant gyda marc cyfartalog o 70% neu uwch ar gyfer modiwlau rhan un eich gradd Meistr (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs Meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno eich traethawd hir erbyn 30/09/2024 fan hwyraf.

Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu dechrau eu cwrs astudio ym mis Hydref 2024. Gan mai rhaglen sy'n seiliedig ar garfan yw hon, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd nac i flwyddyn academaidd arall.

Sylwer bod y gofynion mynediad o ran gradd a hyfedredd iaith ar gyfer SURES yn uwch na'r isafswm gofynion mynediad a nodir ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni PhD ym Mhrifysgol Abertawe.

Oherwydd cyfyngiadau o ran cyllid, mae'r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU yn unig, fel y’u diffinnir gan reoliadau UKCISA.  

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn talu holl ffïoedd dysgu'r DU gan gynnwys cyflog blynyddol ar £19,237.

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol ar gael hefyd.

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Dewis Cwrs –  dewiswch Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio / Ph.D./ Amser llawn / 3 Blynedd / Hydref

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.

  1. Blwyddyn dechrau - Dewiswch 2024
  2. Cyllid (tudalen 8) -
  • 'Ydych chi’n ariannu'ch astudiaethau eich hun?' - dewiswch Nac ydw
  • 'Rhowch enw'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n darparu'r cyllid astudio' - nodwch ‘RS612- SURES 5'

*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.

Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.

Rydym ni’n eich annog chi i gwblhau’r canlynol i gefnogi ein hymrwymiad ni i ddarparu amgylchedd nad yw’n cynnwys unrhyw wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe: 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu'r dogfennau ategol a restrir erbyn y dyddiad cau a hysbysebir. Sylwer, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y dogfennau a restrir:

  • CV
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, bydd cipluniau o'ch graddau hyd heddiw'n ddigonol)
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cydweddu'n benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut byddech chi'n dewis i ddatblygu'r prosiect.
  • Dau eirda academaidd (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur swyddogol neu gan ddefnyddio ffurflen eirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad ydym yn gallu derbyn geirda sy'n cynnwys cyfrif e-bost personol e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi eu cyfeiriad e-bost proffesiynol er mwyn dilysu'r geirda.
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
  • Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant (Dewisol)

Os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â Dr James T. Murray (j.t.murray@abertawe.ac.uk).

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol - Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaethau, efallai byddwn yn rhannu data â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan gaiff prosiect ysgoloriaeth ei ariannu ar y cyd.