Bioamrywiaeth ac Ecosystemau, MRes

Bioamrywiaeth ac Ecosystemau

Prosiect hyfforddiant ac ymchwil sgiliau uwch

River

Trosolwg o'r Cwrs

Mae newid amgylcheddol byd-eang yn ail-lunio bioamrywiaeth ac ecosystemau, gyda chanlyniadau i fywyd gwyllt, iechyd yr amgylchedd, a’r swyddogaethau a’r gwasanaethau hanfodol y mae ecosystemau yn eu darparu. Mae ein cwrs MRes mewn Bioamrywiaeth ac Ecosystemau yn ceisio deall y prosesau sy'n pennu patrymau bioamrywiaeth, rhyngweithiadau rhwng rhywogaethau a deinameg ecosystemau, a throsi'r wybodaeth hon yn dystiolaeth a all lywio gwaith cadwraeth, adfer, rheoli'r amgylchedd a pholisi, o raddfa leol hyd at raddfa fyd-eang.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cyfuno ymchwil maes a labordy â dulliau moleciwlaidd a genomig, monitro ecolegol, modelu meintiol ac ystadegol, dadansoddi gofodol, a data ecolegol hirdymor. Bydd yr ehangder hwn yn caniatáu i chi ymchwilio i gwestiynau ecolegol sylfaenol yn ogystal â heriau amgylcheddol dybryd ar draws amgylcheddau tir, dŵr croyw, arfordirol a morol.

Byddwch yn treulio eich semester cyntaf yn datblygu eich sgiliau, eich profiad a’ch arbenigedd trwy dri modiwl a addysgir sy’n canolbwyntio ar ymchwil. Mae'r modiwlau hyn yn datblygu sgiliau uwch mewn dylunio ymchwil, ysgrifennu gwyddonol, dulliau meintiol a dadansoddol, dadansoddi data a meddwl beirniadol. 

Nid oes angen i chi fod â phrosiect ymchwil wedi'i ddiffinio ymlaen llaw pan fyddwch yn cyflwyno cais.Mae'r semester cyntaf yn rhoi amser i chi archwilio ymchwil sy'n cael ei chynnal ar draws y Biowyddorau, nodi meysydd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau, a datblygu prosiect priodol gyda goruchwylwyr posibl.

Mae'r prosiect ymchwil annibynnol yn llenwi’r naw mis o astudio sy'n weddill. Gyda chymorth dîm goruchwylio, byddwch yn ymchwilio i gwestiwn ymchwil penodol, yn llunio traethawd ymchwil sylweddol ac yn cwblhau arholiad llafar.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

ENGHREIFFTIAU O BROSIECTAU MRES DIWEDDAR

  • Ecological restoration of biodiversity in habitats invaded by Japanese knotweed (dan oruchwyliaeth yr Athro Dan Eastwood a'r Athro Mike Fowler)
  • Developing a habitat suitability model for Welsh lesser horseshoe bats (dan oruchwyliaeth yr Athro Jim Bull)
  • Global patterns of marine megafauna functional diversity (dan oruchwyliaeth Dr Catalina Pimiento)
  • Conifer encroachment upon peat bogs within The Scottish Highlands (dan oruchwyliaeth yr Athro Cindy Froyd a Dr Jon Walker)
  • Assessing the impact of offshore windfarms on benthic macrofaunal assemblages using publicly available industry data (dan oruchwyliaeth Dr Ed Pope)
  • Monitoring reintroduced choughs to understand how to rescue corvid populations (dan oruchwyliaeth yr Athro Emily Shepard)
  • The effect of anthropogenic marine debris on sea turtle nesting conditions in the Western Indian Ocean (dan oruchwyliaeth Dr Nicole Esteban, Dr Peter Esteban a Dr Kim Stokes)