Professor Cynthia Froyd

Yr Athro Cynthia Froyd

Athro, Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295254

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 141
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n ecolegydd planhigion daearol, gan arbenigo ym meysydd ecoleg tymor hir, bioamrywiaeth a chadwraeth. Mae prif ffocws fy ngwaith ymchwil ar gymhwyso data ecolegol tymor hir i lywio cadwraeth ymarferol a gwaith adfer ecosystemau. Mae fy ngwaith yn digwydd yn bennaf yn y rhyngwyneb rhwng disgyblaethau ecoleg planhigion a palaeoecoleg - cymhwyso technegau ymchwil palaeoecolegol (h.y. dadansoddi paill ffosiliau, olion planhigion macro-ffosiliau, siarcol, a PalEnvDNA), ond gan ganolbwyntio ar amserlenni sy’n berthnasol yn uniongyrchol i faterion cadwraeth fodern (h.y. cannoedd ar filoedd o flynyddoedd). Nod fy ngwaith ymchwil yw egluro prosesau biolegol ac amgylcheddol sy’n sail i ddatblygiad ecosystemau modern a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, drwy archwilio’r effaith ddynol yn y gorffennol, rhywogaethau ymledol, ymyriadau naturiol a newid amgylcheddol. Yna gellir cymhwyso’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i’r gwaith o gynllunio gwaith rheoli adnoddau naturiol a rhaglenni adfer ecolegol. Mae dadansoddiadau o ddeinameg ecosystemau’r gorffennol nid yn unig yn ein helpu i ddeall SUT rydym wedi cyrraedd lle rydym HEDDIW - mae’n sicrhau hefyd y gellir archwilio’n fwy beirniadol yr hyn rydym am ei gadw / adfer, a sut i gynllunio cadwraeth effeithiol ar gyfer y DYFODOL.

Rwy’n gweithio mewn amrywiaeth o ecosystemau gwahanol, gan ganolbwyntio’n benodol ar: cadwraeth bioamrywiaeth ynysoedd (Ynysoedd Galápagos, Mauritius), ecoleg fforestydd tymherus (Pacific Northwest, y DU) ac adfer mewndiroedd.

O’r Podlediad Gwyddoniaeth: cyfweliad gyda Cynthia Froyd ar ddefnyddio paill ffosiledig fel allwedd i gadwraeth yn y Galápagos.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg tymor hir
  • Ecoleg fforestydd
  • Bioamrywiaeth a chadwraeth
  • Cadwraeth a gwaith adfer ynysoedd
  • Newid amgylcheddol cwaternaidd
  • Ecoleg ymyriadau
  • Rheolaeth adnoddau naturiol
  • Ecoleg adfer mewndiroedd