Professor Emily Shepard

Yr Athro Emily Shepard

Athro, Biosciences
Swyddfa Academaidd - 132
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gennyf ddiddordeb yn y mecanweithiau sydd wrth wraidd symudiad a dosbarthiad anifeiliaid, yn benodol symudiad anifeiliaid sy’n hedfan. Mae anifeiliaid sy’n hedfan yn talu’r pris am wneud hynny ond mae’r hedfan yn cael ei fodiwleiddio gan yr amgylchedd ffisegol, sef y tywydd, y dirwedd a natur y rhyngweithio rhyngddynt. Rwy’n  defnyddio technoleg sydd wedi’i osod ar yr anifeiliaid  i ymchwilio i’r ffordd y mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar draul a phatrymau symudiad adar ac yn cyfuno hyn â modelau er mwyn archwilio canlyniadau ecolegol symudiad. Gall cofnodwyr sydd wedi’u gosod ar anifeiliaid ddarparu gwybodaeth ddigynsail i ni am ymddygiad adar gwyllt, gan gynnwys yr  hyblygrwydd a’r graddau maen nhw’n talu’r pris am wneud hynny a chredaf y gall y data hyn chwarae rhan bwysig wrth fformiwleiddio strategaethau ar gyfer cadwraeth effeithiol sy’n seiliedig ar rywogaethau.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg symudiad
  • Biotelemetreg
  • Hedfan
  • Aeroecoleg
  • Egnïeg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Rydym yn ymchwilio i symudiad anifeiliaid yn yr ystyr ehangaf, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar unigolion i archwilio rôl yr amgylchedd wrth strwythuro priodweddau symudiad anifeiliaid ac yn y pen draw, eu dosbarthiad. Rydym yn arbenigo ar gael gafael ar ddata gan ddefnyddio technoleg newydd sy’n ein galluogi i gael mynediad at wybodaeth gan rywogaethau sy’n arbennig o anodd dod o hyd iddyn nhw.

Prif Wobrau