Trosolwg

Mae gan Brifysgol Abertawe hanes balch o weithgareddau ymchwil yn ymwneud â phlentyndod cynnar. Ni ddylid diystyru pwysigrwydd blynyddoedd cyntaf bywyd ac mae ymchwil hydredol yn dangos yr effaith hirdymor y gall addysg a gofal cynnar o ansawdd uchel ei chael ar blant. Mae gan y brifysgol ymchwilwyr sy'n canolbwyntio ar blant ifanc o safbwyntiau cymdeithasegol, addysgol a seicolegol ar draws y disgyblaethau academaidd. Fel rhan o gynnal yr amgylchedd ymchwil cydweithredol hwnnw, mae ymchwilwyr yn gweithio gyda’i gilydd trwy ystod o rwydweithiau a grwpiau, gan gynnwys:

  • Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant
  • Rhwydwaith Hawliau plant yn y Blynyddoedd Cynnar

Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar ymchwil ar gyfer, a chyda phlant ifanc o ran chwarae, cyfranogiad, addysgeg blynyddoedd cynnar, hawliau plant, ymgysylltu â rhieni a’r gymuned.