Trosolwg

Mae gan Gymru draddodiad balch ym myd addysg ac mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae ei rhan ers iddi gael ei sefydlu y1920. Bu addysgwyr amlwg fel Charles Gittins, deon y gyfadran addysg a ddaeth yn is-bennaeth yn ddiweddarach, yn cadeirio’r adroddiad nodedig ar addysg gynradd yn 1967 sy’n dwyn ei enw. Yn fwy diweddar, roedd yr Athro Ymchwil Gareth Elwyn Jones yn allweddol o ran sicrhau lle i hanes a diwylliant Cymru yn y cwricwlwm. Y tu allan i addysg brif ffrwd, mae'r Brifysgol yn hafan i Lyfrgell Glowyr De Cymru, sy'n cynnal traddodiadau addysgol hen Sefydliadau'r Glowyr a'r Neuaddau Lles.Gall ymchwilio i addysg ein gorffennol gynnig cipolwg ar wreiddiau a datblygiad polisïau ac arferion addysg cyfredol yng Nghymru ar adeg o newid sylweddol. Mae’r thema hon yn eang, ond mae’r ffocws cychwynnol ar brofiad addysg ysgol, datblygu’r cwricwlwm, ac effaith arolygu.