Agorwyd Llyfrgell y Glowyr De Cymru ym Mis Hydref 1973 er mwyn rhoi cartref i’r deunyddion a gasgliwyd gan Prosiect Hanes y Maes Glo De Cymru. Ariannwyd gan Cynghor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a phwrpas y prosiect oedd i cadw tystiolaeth llafar, gweledol ac ysgrifenedig o glowyr a’r maesydd glo yn De Cymru yn ystod amser pan oedd y diwydiant yn dechrau dirwyio ac roedd perygl o golli deunyddiau werthfawr. Wnaeth y prosiect casglu amrywiad o deunyddiau sy’n ffurfio’r Casgliad Maes Glo De Cymru. Mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn cynnwys y casgliadau llyfrau a pamffledi (sy’n cynnwys y llyfrgelloedd o dros 60 sefydliadau a neuaddau lles ar draws y maes glo), hanes llafar, fideos, posteri a faneri. Mae’r cofnodion llawysgrif a’r lluniau efo Archifau Richard Burton. Ers agor yn 1973, mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn parhau a traddodiadau addysgol hen Sefydliadau a Neuaddau Lles y Glowyr trwy datblygu fel adnodd addysgol.
Ar draws y blynyddoedd, mae’r Llyfrgell wedi ehangu trwy gefnogi addysg oedolion a lledu mentrau mynediad. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau Dydd Rhyddhau'r Glowyr, a dysgwyd yn y llyfrgell yn 1970au ac 1980au, a Phrifysgol Gymunedol o’r Cymoedd, a sefydlwyd yn 1993. Heddiw, mae’r llyfrgell dal i weithio mewn partneriaeth gydag Adran y Brifysgol o Addysg Oedolion Parhaus i ddarparu cefnogaeth llyfrgell, gwybodaeth a TG tuag at ddysgwyr oedolyn sy’n dysgu mewn lleoliadau cymunedol ar draws De Cymru.
I ddarganfod mwy am hanes Llyfrgell y Glowyr, gallwch brynu’r llyfr ‘Do Miners Read Dickens? Origins and Progress of the South Wales Miners’ Library: 1973-2013’ gan Hywel Francis a Sian Williams. Mae copïau ar gael o’r llyfrgell neu siop llyfrau.