Cynlluniau benthyca, adnoddau ar-lein a gwasanaeth diwifr ar gyfer ymwelwyr

Mynediad at ein Hadeiladau Llyfrgell

Sylwer gan ein bod ni’n diweddaru ein polisïau a’n gweithdrefnau ar hyn o bryd, mae gwybodaeth am wasanaethau Ymwelwyr â’r Llyfrgell yn debygol o newid. Am wybodaeth gyfredol, gweler ein hadran Gwybodaeth i Ymwelwyr â’r Llyfrgell cyn pob ymweliad.

Mae ein gwasanaethau Llyfrgell ar gael i Staff a Myfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe, aelodau’r cynllun Mynediad SCONUL, myfyrwyr prifysgol o sefydliadau eraill, ac aelodau Llyfrgelloedd Ynghyd sy’n dros 18 oed (rhai i blant dan 18 oed ddod yng nghwmni oedolyn). Bydd gofyn i chi ddangos prawf adnabod i’n staff Diogelwch wrth ddod i mewn i’r adeilad.

Sylwch, nid yw Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn gweithredu'r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd ar hyn o bryd, gan fod ar hyn o bryd mae ein llyfrgelloedd ar agor yn unig i fyfyrwyr ac aelodau staff cyfredol Prifysgol Abertawe, ac aelodau'r cynllun Mynediad SCONUL.
Rhoddir y manylion isod er gwybodaeth gyffredinol am y cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd. Cyhoeddir unrhyw ddiweddariadau ynglŷn â mynediad i'r cyhoedd i'n llyfrgelloedd ar y tudalen hwn, felly cyfeiriwch at y tudalen hwn am y wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

Mae'r Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn caniatáu i unrhyw aelod cyfredol o lyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Sir Benfro, Sir Ceredigion a Sir Gar i gael mynediad benthyca am ddim at bob llyfrgell gyhoeddus o fewn yr ardaloedd yma, yn ogystal â mynediad benthyca am ddim at lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg Gorseinon a Choleg Sir Benfro.  I ymuno a'r cynllun, ymwelwch â'ch llyfrgell gyhoeddus agosaf ac ymunwch os nad ydych yn aelod yn barod. Gofynnwch am basbort Llyfrgelloedd Ynghyd a nodwch pa lyfrgell addysg bellach neu addysg uwch hoffech ymuno a. Ewch a'r pasbort i'r llyfrgell ac yna a bydden yn eich cofrestri fel defnyddiwr.

Myfyrwyr a Staff Prifysgol Abertawe

  • Mae angen i Staff a Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ddangos eu cardiau adnabod prifysgol

Myfyrwyr a Staff nad ydynt o Brifysgol Abertawe

  • Mae angen i aelodau Mynediad SCONUL ddangos cerdyn Mynediad SCONUL
  • Mae angen i fyfyrwyr prifysgol o sefydliadau eraill dangos cerdyn adnabod eu sefydliad cartref
  • Mae angen i gwsmeriaid Llyfrgelloedd Ynghyd gysylltu â ni cyn eu hymweliad, ac anfonir e-bost cadarnhau atoch i ddangos i bersonél y ddesg Diogelwch.
  • Gall cyn-fyfyrwyr cael mynediad i'r llyfrgell trwy'r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd fel yr amlinellir uchod.  
  • Mae croeso mawr i ffoaduriaid a cheiswyr lloches defnyddio ein llyfrgelloedd trwy'r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd fel yr amlinellir uchod.