Mae yna amrywiaeth o fannau astudio ar gael yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a'r Bae.
Gallwch ddewis ac archebu man Astudio/CP cadwadwy drwy ein system archebu ar-lein.
Mannau Astudio/CP Cyffredinol: Mae'r rhain ar gael i'n holl fyfyrwyr fel y ganlyn:
Gallwch gadw man astudio y gellir ei archebu rhwng 8yb a 10yh. Nid oes angen archebu ar gyfer y mannau hyn rhwng 10yh ac 8yb. Mae mannau astudio eraill ar gael 24/7 heb orfod cadw lle.
Cewch archebu uchafswm o 24 cyfnod o 60 munud yr wythnos (cyfanswm o 24 awr, 6 awr y dydd). Rhaid archebu bob un cyfnod unigol o 60 munud.
Gallwch archebu hyd at bythefnos o flaen llaw.
Gellir archebu'r holl sesiynau yn un man os oes angen ac os ydynt ar gael. Os yr ydych yn archebu sesiynau ar draws lleoliadau gwahanol, caniatewch amser ar gyfer teithio rhwng safleoedd, a deithiwch rhwng safleoedd os yw'n angenrheidiol yn unig.
- Mae'r mannau hyn ar gael i fyfyrwyr ar gyfer defnydd unigol yn unig.
- Gallwch archebu man hyd at bythefnos o flaen llaw. Sicrhewch eich bod yn dewis yr holl amseroedd sydd angen arnoch os ydych yn archebu ar-lein. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau pan fydd eich archeb wedi’i gwblhau. Dylech gadw'r e-bost hwn fel prawf o'ch archeb. Bydd angen i chi dangos yr e-bost a'ch cerdyn adnabod myfyriwr i fynd i mewn i'r Llyfrgell.
- Bydd yn ofynnol i chi ddefnyddio hylif diheintio a pharchu'r rheoliadau ymbellhau cymdeithasol ar bob adeg.
- Mae toiledau ar gael yn y Llyfrgell ond dydy bwyd a diod ddim ar gael.