Trosolwg

Mae ymgysylltiad rhieni (teuluol) ym mhroses dysgu pobl ifanc yn elfen hanfodol ym mhob system addysg, er nad yw wastad yn cael ei chydnabod. Mae ymchwil wedi dangos pwysigrwydd rôl rhieni neu oedolion eraill wrth gefnogi dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Gall y cymorth hwn fod ar ffurf darllen gyda phlant iau neu ddarllen iddyn nhw, goruchwylio gwaith cartref, ac efallai'n bwysicaf na dim, cynnal sgyrsiau am ddysgu a chefnogi credoau pobl ifanc yn eu gallu i ddysgu.

Er bod llenyddiaeth yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltiad rhieni â dysgu, mae addysgwyr yn aml yn ei chael hi'n anodd cefnogi'r ymgysylltiad hwn. Mae’r rhan fwyaf o raglenni sy’n paratoi athrawon dim ond yn cyffwrdd yn arwynebol, os o gwbl, â’r mater hwn, fel y gwelir mewn darn o waith a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Bangor. Mae ymwneud y rhieni ag ysgolion (er enghraifft, mynychu nosweithiau rhieni) yn aml yn cael ei ddrysu ag ymgysylltiad rhieni â’r broses dysgu (sy'n digwydd y tu allan i'r ysgol fel arfer); mae’n ymddangos mai’r ail o'r rhain sy’n cael yr effaith fwyaf buddiol ar addysg pobl ifanc.

Mae hefyd yn bwysig i ni ddeall sut mae gwahanol deuluoedd yn ymgysylltu â dysgu ac ein bod yn cefnogi pob teulu i wneud hynny.

Mae addysg yng Nghymru wedi cydnabod pwysigrwydd ymwneud y rhieni ac ymgysylltiad rhieni â’r broses dysgu ers blynyddoedd lawer, gan arwain y ffordd gyda Phecyn Cymorth ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd yn 2016, a chyda chefnogaeth gyfredol ar gyfer addysg gymunedol.