Trosolwg

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhan o’r newidiadau diweddar i'r cwricwlwm yng Nghymru. Fel rhan o ymrwymiad parhaus i genhadaeth ddinesig y Brifysgol, rydym yn creu grŵp o ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn astudio’r cwricwlwm newydd, yn ogystal ag astudiaethau cwricwlwm yn fwy cyffredinol.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn astudio’r cwricwlwm yng Nghymru. Nid yn unig mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru wrthi’n cael ei gyflwyno, ond mae’r cwricwlwm newydd hwn yn rhoi llawer o ryddid i ysgolion ac athrawon.

Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf ers amser maith, bydd athrawon yn dechrau meddwl am rai cwestiynau mawr am addysg. Beth yw addysg? Beth mae ysgolion yn bwriadu ei wneud? Ble ddylai a ble na ddylai ysgolion ymyrryd? Sut gall y cwricwlwm newydd uchelgeisiol barhau i adeiladu ar sylfeini’r hen gwricwlwm?

Yn y pen draw, mae'r cwricwlwm yn pennu sut mae plant ysgol yn treulio rhan fawr o'u bywydau. Gall cwricwlwm gwael wastraffu amser plant, a gall cwricwlwm da wella eu bywydau a'r gymdeithas o'u cwmpas.