Trosolwg

Defnyddir y geiriau ‘lles’ a ‘llesiant’ yn aml i gwmpasu llawer o agweddau ar les, iechyd, a chyflwr cydbwysedd. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio diffiniad eang o’r gair lles, sy'n cynnwys agweddau seicolegol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol, ond maent hefyd yn cydnabod arwyddocâd amgylchiadau economaidd ym mywydau plant a phobl ifanc. Mae pryderon eang ynghylch lles plant a phobl ifanc, yn enwedig ers pandemig Covid-19, yn amlygu’r angen am addysg ac ymchwil barhaus yn y maes hwn. Felly mae’r Adran yn cynnig modiwlau lles ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, sy’n archwilio meysydd megis sut i ddiogelu a hyrwyddo lles mewn addysg.