Trosolwg

Mae chwarae yn gysyniad sy'n rhychwantu llawer o wahanol agweddau ar fywydau plant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cyd-destunau datblygiadol, addysgol, hamdden a therapiwtig. Gall canfyddiadau o rôl chwarae amrywio o safbwynt oedolyn, plentyn, ymarfer a pholisi. Ystyrir yr holl agweddau hyn mewn perthynas â sut yr ydym yn ymchwilio i chwarae ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae gan yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ddau ymchwilydd blaenllaw ar chwarae, sef Dr Pete King a Dr Justine Howard. Mae eu hymchwil cydweithredol ac annibynnol wedi'i gyhoeddi'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yr ymchwil gydweithredol ddiweddaraf a gyhoeddwyd ganddynt yw astudiaeth o’r gweithlu chwarae yng Nghymru, gydag ymchwil annibynnol Dr Justine Howard ar hyn o bryd yn ymwneud â’r defnydd o chwarae i gefnogi adfyd, ac ymchwil Dr Pete King yn canolbwyntio ar y broses o chwarae o fewn y ‘Cylch Chwarae’.