Trosolwg

Mae llawer o'n gwaith yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn canolbwyntio ar bartneriaeth agos gyda’n cydweithwyr yn yr ysgolion. Mae hyn i’w weld yn glir yn ein gwaith gyda’r mentoriaid ysgol sy’n gweithio ar draws ein rhaglenni AGA. Mae pwysigrwydd mentora o ran datblygiad athrawon wedi’i ddogfennu’n dda1. Mae gwerth mentora da a'r rhan hanfodol y mae'n ei chwarae yn natblygiad ymarfer hefyd i’w weld yn glir yn adborth y myfyrwyr.

Nododd Estyn2 rai cwestiynau hunan-fyfyriol allweddol i gefnogi gwerthusiad mentora mewn addysg gychwynnol athrawon. Roedd y rhain yn cynnwys canolbwyntio ar strategaeth i ddatblygu rôl mentoriaid mewn ffordd sy’n cyfrannu at weledigaeth gyffredin ar gyfer addysg athrawon, a dealltwriaeth gyffredin o fentora ac effeithiolrwydd mentora. Datgelodd prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan gydweithwyr ysgol a phrifysgol PYPA yn 2022 fod mentoriaid yn gwerthfawrogi’r rôl, ond bod angen mwy o waith i nodi ac archwilio’n llawn elfennau mwy datblygiadol y rôl fentora (Clutterbuck, 2004).

1 Dan Goldhaber, John Krieg, Natsumi Naito, Roddy Theobald; Making the Most of Student Teaching: The Importance of Mentors and Scope for Change. Education Finance and Policy 2020; 15 (3): 581–591. doi: https://doi.org/10.1162/edfp_a_00305.

2 Estyn (2022). Diwygio Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru: cryfderau sy’n dod i’r amlwg a meysydd i’w hystyried, Estyn.