Trosolwg

Er bod addysgeg yn cael ei diffinio mewn nifer o wahanol ffyrdd, fe'i disgrifir yn aml fel celfyddyd a gwyddor addysgu a dysgu. Tra bod hyn yn cynnwys archwilio cwestiynau am dechnegau hyfforddi, arddulliau addysgu a ffurfiau asesu, mae addysgeg hefyd yn ymwneud â damcaniaethau sy'n ceisio esbonio'r dysgu.

Yn draddodiadol, mae dysgu wedi cael ei ystyried naill ai fel achos o gaffael gwybodaeth, gyda chanlyniadau rhagweladwy a mesuradwy, neu fel yr hyn sy’n digwydd yn ein meddyliau wrth i ni wneud synnwyr o’n profiadau. I lawer o addysgwyr, mae dysgu yn broses gymdeithasol sy'n defnyddio iaith a diwylliant i lunio gwybodaeth.

Yn y gymuned academaidd, ceir parodrwydd i fabwysiadu addysgeg mewn cyd-destunau a safbwyntiau eang, megis 'addysgeg feirniadol' sy'n herio anghydraddoldebau strwythurol, ac 'addysgeg gynhwysol' sy'n ceisio gwella cyflawniad pob dysgwr. Mae gan y Ganolfan ddiddordeb mewn addysgeg gonfensiynol, megis cyfarwyddyd uniongyrchol, addysgeg ddigidol ac yn enwedig ers pandemig Covid-19, ffurfiau newydd feladdysgeg y cartref’, sy’n archwilio’r cartref fel man ar gyfer dysgu diwylliannol.