Trosolwg

Mae maes arweinyddiaeth (neu arweinyddiaeth a rheolaeth) ysgolion yn un bywiog. Mae ymchwil wedi dangos bod effaith arweinwyr ysgol yn ail yn unig i effaith athrawon dosbarth wrth archwilio dylanwadau’r ysgol ar gyflawniad myfyrwyr. 

Er nad oes cytundeb ar y ffyrdd 'gorau' neu fwyaf effeithiol i arwain mewn ysgolion, mae cytundeb eang nid yn unig ar bwysigrwydd y dylanwad mae arweinwyr ysgol yn ei gael yn eu lleoliadau, ond hefyd ar bwysigrwydd arweinyddiaeth ar bob lefel yn yr ysgol – o’r ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Wrth i Gymru gamu i gyfnod o newid dwys a ysgogwyd gan y cwricwlwm newydd, mae arweinyddiaeth ysgolion, a gwaith arweinwyr ysgolion ar bob lefel, wedi dod yn bwysicach fyth. Mae’r safonau newydd ar gyfer athrawon yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth a pharatoi ar gyfer arweinyddiaeth.