Pixabay image: Reto Scheiwiller, sensor technology

Trosolwg Grŵp

Ein Diddordebau Ymchwil a'n Harbenigedd:

  • Arbenigedd wrth ddatblygu synwyryddion biolegol, cemegol, trydanol, optegol a mecanyddol.
  • Datblygu synwyryddion newydd ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau, megis dibenion meddygol, amgylcheddol, y rhyngrwyd pethau, gweithgynhyrchu, amddiffyn, amaethyddiaeth, moduro a hedfan etc.
  • Dylunio a datblygu synwyryddion hynod sensitif a detholus sy'n seiliedig ar systemau deunyddiau newydd, megis nanoddeunyddiau, ocsidau metel, MXenes, TMD (transition metal dichalcogenides) a chyfansoddion organig-anorganig etc.
  • Datblygu technolegau uwch i gynhyrchu synwyryddion ar raddfa fawr am bris cymharol rad.
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol wrth ddadansoddi data.

Isod ceir rhai enghreifftiau o'n gweithgareddau ymchwil:

  • Nanobiosynwyryddion argraffedig am gost isel, dull hynod sensitif o ganfod cytomegalofirws dynol mewn babanod newydd eu geni.
  • Ffotosynwyryddion band-eang ar gyfer cyfathrebu optegol a chymwysiadau biofeddygol.
  • Micronodwyddau mewn synwyryddion gwisgadwy ar gyfer monitro clefydau cronig mewn ffordd nad yw’n fewnwthiol iawn.
  • Synwyryddion Adnabod Amleddau Radio ar gyfer dinasoedd clyfar, monitro'r amgylchedd, iechyd a diogelwch.
  • Synwyryddion nwy metel ocsid ar gyfer monitro'r amgylchedd ac iechyd.
  • Synwyryddion cemegol sy'n seiliedig ar gyfansoddion organig-anorganig ar gyfer monitro diogelwch bwyd.
  • Synwyryddion electrogemegol rhad wedi'u huwchgylchu o wastraff bwyd ar gyfer monitro yn y man a'r lle ficrolygryddion sy'n ymddangos mewn dŵr.
  • Synwyryddion MEMS ar gyfer cymwysiadau biosynhwyro.