Dr Waye Zhang

Dr Waye Zhang

Uwch-ddarlithydd, Chemical Engineering

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - C_216
Ail lawr
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gan Dr Zhongian hanes llwyddiannus o ddatblygu technolegau prototeip newydd, yn enwedig o ran monitro a thrin dŵr.

Ariannwyd ei brosiect PhD, ’New nanocomposite of porous materials and visible light sensitive catalysts for efficient wastewater purification’ gan Brosiect Cyswllt Cyngor Ymchwil Awstralia (ARC) (Rhif LP0989240, 2008-2011). I gydnabod ei ymchwil PhD, derbyniodd nifer o wobrau uchel eu bri, gan gynnwys 'Gwobr Llywodraeth Tsieina i Fyfyrwyr Eithriadol sy’n Astudio Dramor' (2009) a gwobr deithio yr ‘International Humic Substance Society’ (IHSS) (2010).

Rhwng 2011 a 2014, datblygodd dechnoleg newydd dadïoneiddio cynhwysaidd (CDI) ar gyfer dihalwyno dŵr lled hallt mewndirol, wedi’i ariannu gan y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol mewn Dihalwyno, Awstralia (NCEDA). Cynhaliwyd y prosiect ar y cyd â phartneriaid y diwydiant, 'Power and Water Corporation' yng Nhiriogaeth y Gogledd, ac 'SA Water' yn Ne Awstralia (gyda chyllideb o £300,000).

Cafodd effaith ei waith ar economeg-gymdeithasol Awstralia ei chynnwys fel erthygl glawr gyda'r teitl ‘CDI can supply remote places’ yn Desalination & Water Reuse,, Cyfrol 22, Rhifyn 2. Er mwyn dangos tystiolaeth bellach o'r cyfraniad hwn, enillodd Wobr Ymchwil Dŵr Ôl-raddedig Cymdeithas Dŵr Awstralia (AWA) hefyd, gwobr hynod gystadleuol, yn 2013 (dim ond 1 y flwyddyn yn Awstralia).

Yn 2014, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Endeavour Awstralia iddo i weithio ym Mhrifysgol Cincinnati a'r Labordy Ymchwil Rheoli Risg Cenedlaethol, Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Unol Daleithiau (U.S. EPA). Rhwng 2015 a 2017, fe'i dewiswyd gan Academi Wyddoniaeth Awstralia fel Cymrawd Tramor Cymdeithas Hyrwyddo Gwyddoniaeth Japan (JSPS) (10 y flwyddyn yn Awstralia) i weithio ym Mhrifysgol Tokyo, Japan.

Ers 2016, mae Dr Zhang wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu synwyryddion electrocemegol gan ddefnyddio gwahanol fathau o nanoddeunyddiau ar gyfer monitro dŵr amgylcheddol, gan gynnwys metelau trwm (h.y. plwm a chadmiwm), sgil-gynhyrchion diheintio a thocsinau algaidd.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Trin Dŵr
  • Ansawdd Dŵr
  • Synwyryddion Bio-/Cemo
  • Dihalwyno
  • Nanoddeunyddiau
  • Technolegau Amgylcheddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
2018 Cymdeithas Alumni Marie Curie (MCAA) Micro Media Grant
2018 Cymrodoriaeth Florence Mockeridge, Prifysgol Abertawe
2017 Horizon 2020 Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) Cymrodoriaeth Unigol
2015 Japan Society for the Promotion of Science (JSPS) Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol
2014 Cymrodoriaeth Ymchwil Australian Endeavour
2013 Dyfarniad Ymchwilydd Gyrfa Cynnar Ymchwil Teithio Rhyngwladol UniSA
2012 Australian Water Association (AWA) Dyfarniad Ymchwil Dŵr Ôl-Raddedig
2012 Dyfarniad Cynllun Ymchwilydd â Chefnogaeth UniSA
2010 Dyfarniad Cymorth Teithio’r International Humic Substance Society (IHSS)
2009 Dyfarniad Llywodraeth Tsieina i Fyfyrwyr Eithriadol sy’n Astudio Dramor
2008 Dyfarniadau Ôl-raddedig Awstralia (APA) ac Ysgoloriaeth Diwydiant