Dr Sanjiv Sharma

Dr Sanjiv Sharma

Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Feddygol, Biomedical Engineering
420
Pedwerydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Derbyniodd Dr Sanjiv Sharma ei PhD am ymchwil ar ddatblygu dulliau dadansoddol ar gyfer penderfynu ar rai cynhyrchion fferyllol a'u metabolion gan ddefnyddio system wahanu fychanedig yn 2001. Roedd ei PhD, wedi’i oruchwylio gan Dr Sunil Kumar Sanghi, yn rhan o brosiect ymchwil Indo-Ewropeaidd ar y cyd ar system wahanu fychanedig mewn cydweithrediad â Phrifysgol Amsterdam. Yna fe wnaeth ymchwil ôl-ddoethurol ym meysydd dilyniannu trwybwn uchel, proteomeg glinigol a systemau dadansoddol bychanedig yn Ffrainc a'r Almaen rhwng 2001 a 2004. Yn 2004, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Technoleg Chevening iddo i weithio gyda'r Athro Andrew deMello ar systemau microadwaith microhylifol yn yr Adran Gemeg yng Ngholeg Imperial Llundain.

Ar ôl cwblhau ei gymrodoriaeth ymunodd â'r Sefydliad Peirianneg Biofeddygol, Coleg Imperial Llundain i weithio gyda'r Athro Tony Cass ym maes Bionanotechnoleg a Biosynwyryddion. Yma datblygodd ficronodwyddau minimol fewnwthiol, o wnethuriad ffotolithograffig i wneuthuriad trwybwn uchel, gan fynd â'r micronodwyddau hyn o'r labordy i'r clinig. Roedd Sanjiv yn rhan o brosiect ymchwil a ariannwyd gan NIHR (i4i) a oedd yn cynnwys astudiaethau clinigol mewn gwirfoddolwyr iach a chyfranogwyr gyda T1D gyda Chlinigwyr Endocrinoleg enwog: Yr Athro Desmond Johnston a'r Athro Nick Oliver. Mae wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau ymchwil ac mae ganddo batentau wedi'u ffeilio yn yr Almaen, y DU a'r Unol Daleithiau.

Ar hyn o bryd mae Sanjiv yn Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Feddygol yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Yn Abertawe, mae'n gweithio ar ddarparu cyffuriau therapiwtig a chymwysiadau diagnostig (theranostig) micronodwyddau polymerig.

Meysydd Arbenigedd

  • Micronodwyddau
  • Synwyryddion minimol fewnwthiol
  • Monitro glwcos parhaus (CGM)
  • Monitro lactos parhaus (CLM)
  • Monitro cyffuriau therapiwtig interstitaidd (iTDM)