Mae'r Sefydliad Ymchwil Ryngddisgyblaethol ar gyfer Atebion Technoleg Iechyd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu a gwella diagnosteg a thriniaethau cleifion.

Ac yntau'n Arweinydd y Thema, mae'r Athro Owen Guy yn ymchwilydd blaenllaw ym maes technoleg iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae wedi arwain sawl prosiect ymchwil yn y maes hwn, gan gynnwys:

Datblygu nanosynwyryddion ar gyfer diagnosio a monitro clefydau. Mae'r ymchwil hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu atebion gofal iechyd sy'n seiliedig ar nanodechnoleg. Mae wedi arwain prosiectau ymchwil â'r nod o ddatblygu nanosynwyryddion a all ganfod clefydau ar gam cynnar, gan alluogi cleifion i gael eu trin yn brydlon a chael canlyniadau gwell.

Mae'r prosiectau ymchwil hefyd wedi ceisio datblygu nanoddeunyddiau y gellir eu defnyddio i gyflenwi cyffuriau. Gellir dylunio'r nanoddeunyddiau hyn i dargedu celloedd neu feinweoedd penodol, gan alluogi cyffuriau i gael eu cyflenwi'n fwy effeithiol a lleihau sgîl-effeithiau. Mae'r ymchwil hefyd yn archwilio'r broses o ddatblygu dyfeisiau gwisgadwy i fonitro iechyd. Gall y dyfeisiau hyn olrhain arwyddion bywyd megis glwcos, cyflymder y galon, pwysedd gwaed a lefelau ocsigen, gan helpu i ganfod problemau iechyd yn gynnar.

Yn gyffredinol, mae ymchwil y thema technoleg iechyd yn canolbwyntio ar ddatblygu atebion arloesol a all wella canlyniadau cleifion a thrawsnewid gofal iechyd.

Yr Athro Owen Guy

Pennaeth Cemeg, Chemistry
+44 (0) 1792 513181
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig