TECHNOLEG GOFAL IECHYD
Mae'r thema delweddu wedi'i diffinio'n fras – gan gwmpasu dulliau delweddu meddygol confensiynol, gan gynnwys sganiau CT, MRI, Uwchsain a PET – yn ogystal â microsgopeg, cyseinedd magnetig, sbectrosgopeg Raman ac optegol, a thechnegau delweddu newydd sy'n defnyddio dotiau cwantwm.
Rhoddir pwyslais ar ddatblygu technegau diagnostig a dadansoddol newydd at amrywiaeth eang o ddibenion, o sgrinio am ganser i anhwylderau niwrolegol, yn ogystal â dulliau delweddu newydd fel delweddu wedi'i wella gan briodweddau cwantwm.
Sganiau MRI amlbaramedr er mwyn canfod canser ar gam cynnar
Gellir gwella triniaethau a chanlyniadau cleifion am lawer o ganserau cyffredin drwy eu canfod yn gynnar. Nod y prosiect meta hwn yw nodi biofarcwyr canserau ar gam cynnar a rhagfynegi datblygiad briwiau bach yn ganserau ymosodol ac ymledol ar sail data delweddu amlbaramedr, ochr yn ochr â data clinigol megis profion gwaed, canlyniadau biopsïau a hanes cleifion, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, delweddau wedi'u prosesu a thechnegau dadansoddol.
Diagram sy'n cymharu crynodiadau Meintioli metabolion drwy sbectrosgopeg cyseinedd magnetig
Mae anghydbwysedd cemegol yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ddatblygiad a gwaethygiad llawer o gyflyrau meddygol, o anhwylderau niwrolegol a seicolegol sy'n amrywio o iselder i ddementia, i anhwylderau metabolaidd megis diabetes, i ganser. Mae gan feintioli metabolion in vivo gan ddefnyddio sbectrosgopeg cyseinedd magnetig botensial sylweddol i wella diagnosisau a thriniaethau drwy ganfod anghydbwysedd cemegol o'r fath. Fodd bynnag, er bod llawer o dechnegau wedi cael eu datblygu, ceir problemau sylweddol o ran cywirdeb a dibynadwyedd y canlyniadau, a'r gallu i'w hatgynhyrchu, sy'n cyfyngu ar y dulliau o'u defnyddio'n ymarferol.
Nod y prosiect hwn yw mynd i'r afael â'r problemau hyn, er mwyn asesu a gwella dibynadwyedd y technegau presennol a datblygu technegau newydd gan ddefnyddio gwrthrychau prawf wedi'u graddnodi, efelychiadau, technegau dadansoddol a deallusrwydd artiffisial.
Sbectrosgopeg Raman ar gyfer sgrinio am ganser
Mae technegau sgrinio effeithiol yn gwneud cyfraniad allweddol at ganfod canserau'n gynnar. Nod y prosiect hwn yw datblygu profion gwaed am ganserau cyffredin megis canser y colon a'r rhefr a chanser y fron, gan ddefnyddio sbectrosgopeg Raman a deallusrwydd artiffisial i helpu i sgrinio ar lefel y boblogaeth mewn modd costeffeithiol, canfod canserau'n gynharach a gwella triniaethau.