Mae'r thema biofodelu'n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau a thechnegau newydd i wella canlyniadau gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys datblygu dyfeisiau meddygol newydd, yn ogystal â defnyddio egwyddorion peirianneg i ddeall yn well y corff dynol a'i weithrediadau.

Mae'r thema biofodelu'n arbenigo mewn datblygu a defnyddio offer cyfrifiadol i wella ein dealltwriaeth o ffisioleg ddynol, datblygu technegau diagnostig uwch a dylunio dyfeisiau meddygol yn y modd gorau posib. Cynhelir yr ymchwil mewn nifer o feysydd, gan gynnwys synwyryddion diagnostig a modelu systemau ffisiolegol yn gyfrifiadol.

Mae'r thema biofodelu hefyd yn rhan o thema peirianneg fiofeddygol ehangach ar draws y gyfadran i gynnwys cylch gwaith eang o ymchwil i beirianneg sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Dr Raoul van Loon

Athro Cyswllt, Biomedical Engineering
+44 (0) 1792 602018
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig