Dr Raoul van Loon

Dr Raoul van Loon

Athro Cyswllt, Biomedical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602018

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A_119
Llawr Cyntaf
Adeilad Canolog Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rhwng 1995 a 2001, bu Dr Raoul van Loon yn cyflawni ei BSc ac MSc mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Dechnoleg Eindhoven, gan raddio yng ngrŵp yr Athro Frank Baaijens. Roedd gwaith gradd Raoul yn ymwneud â datblygu côd elfennau cyfyngedig a fyddai'n disgrifio ymddygiad chwyddo tri-dimensiwn meinweoedd man-dyllog a chlai gan ddefnyddio damcaniaeth cymysgeddau.

Wedi hynny, dechreuodd ei PhD yn yr adran Biobeirianneg yng ngrŵp yr Athro Frans van de Vosse. Diben ei waith ymchwil oedd datblygu dull rhyngweithio hylif-strwythur a ellid ei ddefnyddio ar gyfer modelu falf y galon. Yn 2005 enillodd Raoul ei PhD ar y pwnc hwn.

Fel cymrawd Marie Curie, dechreuodd Raoul weithio yng ngrŵp Spencer Sherwin yn Adran Awyrenneg yng Ngholeg Imperial Llundain. Roedd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth o dechnegau a modelau rhifiadol sy'n ymwneud â rhyngweithio hylif-strwythur falfiau'r galon.

Yn ogystal, cydweithiodd â'r grŵp Peirianneg Meinweoedd, dan arweiniad Patricia Taylor, Adrian Chester a Syr Magdi Yacoub, yng Nghanolfan Gwyddoniaeth y Galon yn Harefield. Gan gydweithio â Chris Bowles, mae hefyd wedi cyfrannu at optimeiddio bioadweithydd ar gyfer falfiau'r galon a meinweoedd sydd wedi'u peiriannu.

Ar hyn o bryd mae Raoul yn rhoi sylw i broblemau amrywiol sy'n ymwneud â llif biohylifau a biomecaneg. Ei brif gydweithredwyr yw Igor Sazonov a Perumal Nithiarasu yn yr Adran Beirianneg a Jason Xie yn yr Adran Gyfrifiadureg.