Smart watch

Mae deallusrwydd artiffisial sy'n seiliedig ar ddata a'r technolegau cysylltiedig yn prysur ddod yn gyffredin mewn sawl rhan o gymdeithas. Yn benodol, mae gan y technolegau hyn y potensial i wella agweddau amrywiol ar ofal cleifion, o atal yn ehangach a diagnosio'n gynharach i ddarganfod cyffuriau newydd. Mae'r thema hon yn ystyried cymhwyso rhai o'r datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial i'r heriau technolegol sy'n gynhenid i'r gwyddorau iechyd. Mae'n cynnwys ymchwilwyr sydd â diddordeb yn rhai o bynciau llosg ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial, o'r gallu i greu atebion newydd, i esbonio'r atebion a ddarperir gan ddeallusrwydd artiffisial a gwella ein dealltwriaeth ohonynt.

Miss Claire Barnes

Darlithydd (Dadansoddeg SPEC ar gyfer Data sy'n Canolbwyntio ar Bobl), Biomedical Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Benjamin Mora

Athro Cyswllt, Computer Science
+44 (0) 1792 295575
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig