A group of people talking at a table

DATGANIAD CENHADAETH

Gan adeiladu ar gryfderau ymchwilwyr y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, bydd y Sefydliad Ymchwil Ryngddisgyblaethol ar gyfer Atebion Technoleg Iechyd yn: Meithrin cymuned o ymchwilwyr sy'n fywiog mewn modd rhyngweithiol, cynhwysol ac amrywiol ac sy'n frwd am iechyd drwy ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd i rwydweithio a datblygu'n broffesiynol ym maes ymchwil iechyd. Hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, gan feithrin cyfleoedd drwy greu consortia ar themâu, a bod yn ymatebol i gyfleoedd i gael cyllid allanol.