Nod ein Sefydliad Ymchwil Iechyd, Technoleg ac Atebion yw creu cymuned ymchwil gynhwysol sy'n annog creadigrwydd, yn darparu cymorth gyda chyllid ac yn helpu staff academaidd i gyflawni allbynnau sylweddol.

Mae ein harbenigedd yn y Sefydliad yn cynnwys y themâu canlynol:

  • Biowyddorau - cynhyrchion naturiol, rheoli fectorau, profi systemau infertebrat ac ymddygiad anifeiliaid
  • Cemeg - cyfansoddion arweiniol newydd ar gyfer y diwydiant bwyd, therapiwteg, cynhyrchion maethol-fferyllol a chosmetigau.
  • Cyfrifiadureg - diagnosteg, deallusrwydd artiffisial, data mawr a dysgu peirianyddol.
  • Peirianneg - diagnosteg, technoleg synhwyro, awtomeiddio, roboteg a nanodechnolegau.
  • Gwyddor Chwaraeon - iechyd a lles a ffitrwydd.

Byddwn yn canolbwyntio ar nodi a chwalu'r rhwystrau sy'n llesteirio gwaith ymchwil, datblygu a gweithredu technoleg, cynhyrchion, gwasanaethau ac atebion digidol ym maes iechyd.

Cryfhau'r cysylltiadau ar draws y Brifysgol, ar y cyd â'r GIG a phartneriaid ym myd diwydiant a chyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau i fynd i'r afael â heriau byd-eang ym maes iechyd.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.

prosthetic limb