Enillodd yr ysgrifennwr a’r gwneuthurwr ffilmiau Guy Gunaratne y Wobr yn 2019 gyda’i nofel gyntaf, In Our Mad and Furious City. Wedi’i gosod ar ystâd o dai yn Llundain yn ystod terfysgoedd ledled y ddinas, cafodd naratif aml-lais, cymhellol Gunaratne ei ganmol gan y beirniaid am alluogi’r darllenwr i gael ei gynnwys ym ‘mywydau ac amgylchiadau nad ydynt fel arfer yn cael canol llwyfan yn ein diwylliant a’n cymdeithas gyfoes.’
Mae nofel Gunaratne’ wedi cael clod enfawr, gan ennill Gwobr Jhalak, a Gwobr Nofel Gyntaf Orau Clwb yr Awduron, ynghyd â chyrraedd rhestr hir a rhestr fer gwobrau eraill, gan gynnwys Gwobr Man Booker, a Gwobr Goldsmiths. Yn 2019, penodwyd Gunaratne yn Gyd-Werinwr yng Nghelfyddydau Creadigol, Coleg Trinity, Caergrawnt.


Crynodeb - 'In Our Mad and Furious City'
I Selvon, Ardan ac Yusuf, sy’n tyfu i fyny o dan dyrau Stones Estate, mae’r haf yn golygu’r un peth y mae’n ei olygu mewn unrhyw le: sef pêl-droed, cerddoriaeth a rhyddid. Ond nawr, ar ôl i filwr Prydeinig gael ei ladd, mae terfysgoedd yn ymledu ar draws y ddinas, ac nid oes unman yn ddiogel.
Wrth i’r gwylltineb chwyrlïo o’u cwmpas, mae Selvon ac Ardan yn parhau i ganolbwyntio ar eu hobsesiynau eu hunain, sef merched a cherddoriaeth Grime. Mae eu ffrind, Yusuf, yn cael ei gynnwys mewn llanw gwahanol, sef ton o radicaliaeth sy’n llifo drwy ei fosg lleol, gan fygwth ysgubo ei frawd anniddig, Irfan, gyda hi.
Guy Gunaratne - Enillyd 2019
Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Eddie Matthews yn siarad â’r awdur arobryn Guy Gunaratne.
- Hafan y Wobr
- Am y Wobr
- Enillwyr Blaenorol
- 2020: Bryan Washington, 'Lot'
- 2019: Guy Gunaratne, 'In Our Mad and Furious City'
- 2018: Kayo Chingonyi, 'Kumukanda'
- 2017: Fiona McFarlane, 'The High Places'
- 2016: Max Porter, 'Grief is the Thing With Feathers'
- 2014: Joshua Ferris, 'To Rise Again at a Decent Hour'
- 2013: Claire Vaye Watkins, 'Battleborn'
- 2012: Maggie Shipstead, 'Seating Arrangements'
- 2011: Lucy Caldwell, The Meeting Point
- 2010: Elyse Fenton, 'Clamor'
- 2008: Nam Le, The Boat
- 2006: Rachel Trezise, 'Fresh Apples'
- Sut i Ymgeisio
- DylanEd
- Rhestr Hir 2021
- Panel Beirniadu
- Podlediad 'Bookends'
- Taith Blog 2020
- Seremoni Wobrwyo 2020
- Diogelu Data
- Fideo
- Cysylltwch a ni - Gwobr Dylan Thomas
- Archif
- Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl Lenyddiaeth Jaipur 2020
- Cefnogwch y Wobr