Elusen gofrestredig rhif 1138342
PAM YMUNO Â THÎM ABERTAWE?
Mae pob taith yn dechrau gydag un cam, ac ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn cymryd camau breision tuag at les gwell, ac yn credu na ddylai neb ddioddef o broblemau iechyd meddwl ar ei ben ei hun.
Drwy ymuno â Thîm Abertawe, byddwch yn ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb, o fannau diogel i nyrsys dan hyfforddiant i atal hunanladdiad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn falch iawn o fod yn noddwyr swyddogol Hanner Marathon Abertawe am y trydedd flwyddyn yn 2025. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, cwblhaodd dros 350 o fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe Hanner Marathon Abertawe fel rhan o Dîm Abertawe, gan godi dros £40,000 i gefnogi gwella iechyd meddwl, a thrwy eich cyfranogiad, rydym yn gwybod y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn 2025.
Fel elusen gofrestredig, rydym yn cyfeirio llawer o'n rhoddion at ymchwil o safon fyd-eang a chymorth i fyfyrwyr. Drwy fuddsoddi yn y meysydd hyn, rydym yn gwneud darganfyddiadau arloesol ym maes iechyd a chynaliadwyedd wrth sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu rhagori yn y brifysgol, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau personol.
O'r camau cyntaf i'r llinell derfyn, gadewch i ni gymryd camau breision.
Cymryd eich camau cyntaf trwy gofrestru i redeg
Nid yw byth yn rhy gynnar i gofrestru!
Fel noddwyr swyddogol, rydym yn gallu cynnig codau mynediad cyfyngedig am ddim, ac am bris gostyngol i fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Yn syml, cofrestrwch i fynegi eich diddordeb mewn rhedeg ar gyfer Tîm Abertawe, a bydd ein tîm codi arian mewn cysylltiad â chanllaw cam wrth gam ar sut i gystadlu a dod yn rhan o 'Tîm Abertawe'. Gyda'n gilydd byddwn yn parhau i 'Gwneud Camau ar gyfer Iechyd Meddwl'.
Hanner Marathon Rhithwir
Peidiwch â phoeni os na allwch fod yn Abertawe ar 9 Mehefin! Eleni, gallwch ymuno â Thîm Abertawe o hyd a chymryd rhan yn Hanner Marathon Rhithwir Abertawe. Drwy gwblhau'r her yn eich ffordd eich hun, ar y llwybr o'ch dewis, unrhyw bryd, gallwch ennill yr un fedal a thystysgrif am ei gorffen. P'un a ydych yn ei gwneud hi gyda ffrindiau neu ar eich pen eich hun, fesul cam neu’r cwbl ar yr un pryd, chi sy'n penderfynu! Cofrestrwch ar gyfer Hanner Marathon Rhithwir Abertawe.
Os nad yw rhedeg yn mynd â'ch bryd chi, gallwch ddal i wneud gwahaniaeth drwy roi arian nawr i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb. Hyd yn hyn, mae'r arian a godwyd wedi helpu i ariannu atal hunanladdiad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gweithlu'r GIG mwy gwydn ac atgyfeirio at ymarfer corff ar gyfer myfyrwyr sy'n teimlo dan straen.
Dyma rai prosiectau anhygoel sydd wedi'u cefnogi gan yr ymgyrch Cymryd Camau Breision hyd yn hyn:
Ymchwil
IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC
Mae'r Athro Ann John a'i thîm o ymchwilwyr yn Yr Ysgol Feddygaeth yn archwilio iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â ffyrdd o atal hunanladdiad a hunan-niwed.
"Mae'n teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth - mewn ffordd wahanol iawn ond yr un mor bwysig - â fy niwrnodau mewn gofal clinigol uniongyrchol".
Drwy gefnogi'r ymchwil feddygol bwysig hon, mae noddwyr wedi'n helpu i achub bywydau am flynyddoedd i ddod.
Cymorth i Fyfyrwyr
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae problemau iechyd meddwl ar gynnydd ymysg pobl ifanc. Ar ôl byw drwy bandemig, mae ein myfyrwyr bellach yn wynebu argyfwng costau byw. Yn yr amserau ansicr hyn, mae'n fwy heriol nag erioed addasu i fywyd yn y brifysgol a'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny. Mae ein Gwasanaeth Lles yn cynnig cymorth rhagorol i'n myfyrwyr, ond rydym bob amser yn ceisio gwneud mwy.
Bydd cefnogi lles ein myfyrwyr yn rhoi'r dechrau gorau posib iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
GWEITHLU GWYDN AR GYFER Y GIG
GWEITHLU GWYDN AR GYFER Y GIG
Mae'r proffesiwn nyrsio mewn argyfwng; mae prinder staff ac mae llawer o nyrsys yn teimlo bod diogelwch cleifion mewn perygl.
Bydd yr Hyb yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod eu profiadau â'u cyd-fyfyrwyr nyrsio, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a nyrsys profiadol sydd wedi bod yn eu sefyllfa hwy.
Bydd y sgiliau y mae ein myfyrwyr nyrsio yn eu hennill o'u hastudiaethau, a'r cymorth y maent yn ei gael gan yr Hyb yn sicrhau eich bod chi a'ch perthnasau'n derbyn y gofal gorau posib, o wardiau esgor i gartrefi gofal a phopeth rhyngddynt.
Cewch ragor o wybodaeth drwy wylio fideo ein hymgyrch, sy’n cynnwys Ryan Jones, ein llysgennad:
Cwrdd â Tîm Abertawe 2024
Effaith
Yn 2022, roedd rhoddion gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn cefnogi prosiectau mewn gwir angen. Diolch - Elusen gofrestredig rhif 1138342