Croeso i'n clwb llyfrau. Byddwch yn darganfod llyfrau gwych gan awduron cyffrous newydd!

Mae croeso i'n holl gyn-fyfyrwyr, aelodau staff a myfyrwyr!

Os ydych yn dwlu ar lyfrau ac am ddod o hyd i lyfrau cyffrous newydd gan yr awduron beiddgar, arloesol neu wefreiddiol diweddaraf, ymunwch â’n clwb llyfrau. Byddwn yn taflu goleuni ar rai o'r llyfrau gorau gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ogystal ag enillwyr Gwobr Dylan Thomas.

Byddwn yn trafod yr hyn sy'n gwneud i chi chwerthin, crio neu’r hyn sy'n eich syfrdanu a pham. Mae’n ffordd berffaith o gysylltu â darllenwyr o feddylfryd tebyg heb adael cysur eich cartref.

Caiff pob sesiwn ei harwain gan un o'r trefnwyr, Brontë neu Jon, pob un yn gyn-fyfyriwr Abertawe sy'n angerddol am lenyddiaeth. Cynhelir trafodaeth ar-lein am y llyfr drwy Zoom bob yn ail fis a gallwch ddod yn rhan o gymuned ein Clwb Llyfrau hefyd.
Mae rhagor o fanylion isod am sut i ymuno â ni.

Sut i ymuno â'r clwb

  • Ymunwch â Chyswllt Prifysgol Abertawe, ein gwefan rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr, sy'n darparu lle preifat a diogel i'n clwb. Gallwch gofrestru yma.
  • Pan fyddwch wedi cofrestru, cliciwch ar 'Groups' yn y ddewislen ar y chwith ac ymuno â grŵp y Clwb Llyfrau. Yma gwelwch fanylion am sut i gofrestru am y sesiwn nesaf.
  • Bydd Brontë, Eddie a Jon yn postio newyddion, meddyliau a chwestiynau'n rheolaidd ar dudalen y grŵp i helpu i danio trafodaeth. Byddem wrth ein boddau'n cael pawb i siarad, felly peidiwch â bod yn swil, rhannwch eich meddyliau â ni hefyd.

Dyddiadau sydd ar ddod

  • 9 Tachwedd 7-8pm

Rhagor o wybodaeth am ein trefnwyr

Bronte

Bronte

Graddiodd Brontë yn ddiweddar o Brifysgol Abertawe lle bu'n astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, cymerodd ran mewn interniaeth fel rhan o'r modiwl Gwobr Dylan Thomas a roddodd gyflwyniad iddi i rôl bwysig blogio a'r cyfryngau cymdeithasol yn y byd llên. Ers hynny, mae nifer ei dilynwyr ar Instagram a TikTok sy'n rhannu ei brwdfrydedd am lyfrau wedi cyfnyddu i dros 10,000. Mae Brontë wedi gweithio gynt yn ei theatr leol ac yn un o'r lleoedd agosaf at ei chalon, y llyfrgell, lle tyfodd ei hawydd i hyrwyddo'r celfyddydau yng Nghymru. Darganfyddwch mwy am Bronte yma.  

 

Jon

Jon

Mae Jon yn awdur ffuglen a thraethodau sy’n hanu o'r DU. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn The Rumpus, Ploughshares online, Hobart, Short Fiction, 3:AM Magazine ymhlith eraill. Ar ôl ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, cwblhaodd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae wrthi'n gweithio ar ei nofel gyntaf ar hyn o bryd. Darllenwch mwy am Jon ar jon-doyle.co.uk neu dilynwch Jon ar drydar ar @Jon_Doyle

Mae Clwb Llyfrau Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn gydweithrediad rhwng Sefydliad Diwylliannol a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.