Dyma Ruth Lucas, Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Marchnata, Digidol a Chreadigol Prifysgol Abertawe.

Y tu allan i'r gwaith, mae Ruth yn gefnogwr rygbi brwd, yn dwlu ar fwyd, yn mwynhau ffitrwydd ac yn fam i Blue, milgi bach.
Cofrestrodd Ruth ar gyfer Hanner Marathon Abertawe i roi hwb i'w hymarfer corff yn dilyn cael ei merch, Lily yn 2020 a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer iechyd meddwl gwell.

Rydym yn sgwrsio â Ruth ac yn cael mwy o hanes ei thaith redeg.

banner
banner

Pam gwnaethoch chi gofrestru ar gyfer y ras?
Aeth chwaraeon ac ymarfer corff â'm bryd i ar ôl i mi gyrraedd 30 oed, wrth i mi gymryd rhan mewn gweithgareddau o Crossfit i redeg drwy gyrsiau rhwystrau. Roeddwn i’n hoffi teimlo'n heini ac yn gryf yn ogystal â chymdeithasu. Ar ôl cael fy merch yn 2020, gwnes i ymdrechu'n galed i wneud ymarfer corff yn rhan reolaidd o'm trefn feunyddiol eto. Llwyddais i am sbel, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo. Ond pan ddechreuais i weithio'n amser llawn eto, bu'n anodd i mi gynnwys ymarfer corff. Ar ôl sawl ymdrech i ailgydio yn fy ffitrwydd, fy aduniad blwyddyn newydd ar gyfer 2023 oedd cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Abertawe a dyna beth wnes i.

Sut hwyl a gawsoch chi wrth ymarfer? Ble gwnest ti ymarfer yn bennaf?
Roedd hi’n lletchwith i ddechrau, yn enwedig yn y gaeaf gyda'r nosweithiau tywyll. Rhoddais i gynnig ar redeg yn ystod fy seibiant amser cinio ond byddwn i'n cael fy ngwlychu yn y diwedd (diolch i dywydd Cymru!). Doedd mynd i gyfarfodydd yn wlyb i gyd ddim yn beth da. Ond roedd popeth yn haws yn ystod y gwanwyn. Gallwn i redeg gyda’r hwyr, ar y penwythnos a chyda fy nghydweithwyr. Diolch i Bek, Phil a Rhian am Glwb Rhedeg Dydd Mawrth! Gwnes i'r rhan fwyaf o'm hymarfer yn Abertawe, gan fanteisio ar dir (gwastad) hyfryd Bae Abertawe, ond llwyddais i redeg yn y Fforest Newydd ar fy ngwyliau yno hefyd.

Rydych chi wedi rhagori wrth godi arian, gan godi mwy na £1,000. Ym mha ffyrdd gwnaethoch chi godi arian?
Pan ddechreuais i, fy ngobaith oedd cyrraedd targed o £200, felly roeddwn i wrth fy modd ac yn ddiolchgar i ragori ar hwnnw! Dechreuais i gofnodi fy hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gallai fy nheulu a'm ffrindiau deimlo'n rhan o'm taith i, yna cysylltais i â phobl yn bersonol a bu digwyddiad gwerthu teisennau gydag aelodau eraill Clwb Rhedeg Dydd Mawrth yn help. Parhaodd pobl i roi arian! Roedd bod yn onest am fy nghymhellion yn help hefyd. Ar ôl dod yn fam, ces i broblemau gyda fy iechyd meddwl fy hun am sbel. Roedd yn llethol ac ni wnes i flaenoriaethu fy anghenion fy hun, ar ôl rhoi fy mhrif sylw i’m merch. Hoffwn i ddiolch i bawb am fod yn hael iawn ac am gefnogi achos mor deilwng.

Beth oedd yr uchafbwyntiau a'r meini tramgwydd ar ddiwrnod y ras? (Gallaf gadarnhau bod y gwres yn ofnadwy!)
Roedd yn destun cyffro ac ofn i mi! Ond roeddwn i'n dwlu ar fod yn rhan o Dîm Abertawe ac roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr at gasglu fy fest. Roedden ni'n ffodus i gael ein hannerch gan Ryan Jones, cyn-gapten Cymru, a Lowri Morgan, sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol. Roedd y ddau ohonynt yn llawn ysbrydoliaeth ac rwy'n cofio Lowri'n dweud: “Nid pawb sy'n gallu rhedeg hanner marathon” ac “Mae'n haws rhedeg os ydych chi'n gwenu”. Gwnes i gofio'r cyngor hwnnw pan aeth pethau'n anodd! Rwy'n ffodus bod gen i'r gallu a daliais i ati i wenu. Roedd yn WYCH gweld fy holl gefnogwyr ar y diwedd, yn enwedig fy ngŵr, fy merch a'm ci. Does dim rhybudd ynghylch pa mor emosiynol byddwch chi. Roedd dagrau lu!

 

banner
banner

Beth byddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sydd am ddechrau rhoi cynnig ar redeg?

Does dim angen cyfarpar crand nac aelodaeth o gampfa. Dim ond pâr o esgidiau ymarfer a chymhelliant. Fy mhrif awgrymiadau fyddai:

• Prynwch esgidiau ymarfer o safon dda. Rhoddais i gynnig ar wisgo hen bâr i ddechrau a doedden nhw ddim yn garedig i'm cymalau!
• Rhedwch gyda phobl eraill os oes modd, ces i gefnogaeth wych gan ffrindiau a chydweithwyr!
• Buddsoddwch mewn technoleg newydd – ddim yn hanfodol o bell ffordd, ond rwy'n dwlu ar fy oriawr a'm clustffonau gan Garmin ac ar olrhain fy hynt ar Strava.