Angelica Salele-Sefo – Myfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Abertawe

Dyma Angelica, sy'n Weithiwr Cyswllt Proffesiynol o Samoa ac sy'n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe.  Yn ddiweddar, cofrestrodd Angelica ar gyfer Hanner Marathon Abertawe, er nad yw hi'n ystyried ei hun yn rhedwr, ond wedi'i hysgogi gan yr achos: iechyd meddwl ac ymchwil canser. Fel myfyriwr Meistr amser llawn, mae bod i ffwrdd o'i theulu yn Samoa wedi bod yn anodd, ond yn union fel rhedeg yr hanner marathon, mae Angelica yn benderfynol o ddyfalbarhau. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio'n ddyfnach i stori ysbrydoledig Angelica.

Pam y gwnaethoch benderfynu rhedeg Hanner Marathon Abertawe?

Doeddwn i ddim wedi ystyried y peth yn llawn wrth gofrestru ar gyfer yr hanner marathon. Meddyliais: "wna'i gofrestru a meddwl amdano nes 'mlaen"; tasen i wedi ystyried y peth dros nos, mae'n siŵr y byddwn wedi dewis peidio â'i wneud erbyn y bore. Ond rwy'n ddiolchgar y gwnes i gofrestru heb adael i'm hymennydd fy mherswadio i beidio â'i wneud I mi, mae'r achos a'r rhai fydd yn cael yr arian wrth wraidd fy rheswm dros wneud y ras. Dw'i wastad wedi eisiau cael effaith, boed yn fawr neu'n fach, tuag at ymchwil iechyd meddwl a chanser.

Beth mae'n ei olygu i chi'n bersonol?

Ar nodyn personol, nid wyf erioed wedi gwneud hanner marathon, a dw'i ddim yn ystyried fy hun yn "rhedwr". Ond, cafodd thema eleni - 'Camau Breision dros Iechyd Meddwl' - effaith fawr arnaf.

Rwy'n fyfyriwr Meistr sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ac nid oeddwn yn gallu dod â fy nheulu gyda mi i'r Deyrnas Unedig. Doedd y penderfyniad i ddod ar fy mhen fy hun i astudio'n llawn amser ddim yn un hawdd i mi na fy ngŵr. Roedden ni'n gwybod ei fod yn bwysig ar gyfer fy ngyrfa, ond hefyd am y rheswm syml iawn ond ystrydebol mae pob rhiant yn gyfarwydd ag ef: gosod esiampl dda i'n plant, y GALLWCH chi ei gwneud hi a bod yn unrhyw beth rydych chi'n ei ddewis.  Ac rwy'n golygu hynny mewn ffyrdd llawer mwy nag addysg neu broffesiwn. Weithiau mae gan bobl blant ac yn disgwyl iddyn nhw dyfu i fyny a bod yn union beth maen nhw wedi gweddïo a gobeithio y bydden nhw. Ond mae plant yn anhygoel am chwalu pob rhagdybiaeth a allai fod gennych amdanynt. Ydych chi'n meddwl y byddan nhw'n dyheu am fod fel chi?  Mae'n annhebygol y byddwch mor lwcus â hynny. Yn amlach na pheidio, byddan nhw'n rhywbeth yn debyg i wrthwyneb yr hyn roeddech chi eisiau iddyn nhw fod. Ac mae hynny'n wych o beth.

Fel rhiant, ein gwaith ni yw arwain a chefnogi ein plant i wynebu eu heriau, a'u helpu i lywio'r byd gwych ond gwyllt hwn rydym yn byw ynddo. Nid ein gwaith ni yw eu mowldio i mewn i bwy rydyn ni eisiau iddyn nhw fod, ond i bwy YDYN NHW. Ac rwy'n credu bod cynifer o broblemau iechyd meddwl yn deillio o drawma yn ystod plentyndod, a achosir gan rieni sydd wedi dioddef o drawma eu plentyndod eu hunain - ac mae'r cylch yn parhau.

A dweud y gwir, dydw i ddim wedi ei chael hi'n iawn bob tro, ac rwy wedi ei chael hi'n anodd bod y rhiant mae fy mhlant yn ei haeddu. Ond dw i'n gobeithio y gallaf ei chael hi'n iawn nawr, yn y ffyrdd sy'n cyfri'. Ac i mi, mae hyn yn golygu cyflawni fy nodau a gwneud y pethau anodd rwy'n ymrwymo iddynt, er gwaethaf yr ofn bob dydd y byddaf yn methu.  

P'un a yw hynny'n golygu mynd yn ôl i'r ysgol a chael y radd rydych chi wastad wedi bod ei heisiau, neu redeg hanner marathon oherwydd eich bod yn credu yn yr achosion y tu ôl iddo. Beth bynnag y byddwch CHI, y person ac nid y rhiant, eisiau ei wneud neu'i gyflawni, dylech ei wneud, er eich mwyn chi eich hun ac i'ch plant.

Yn llythrennol, mae'r ras hon yn teimlo fel ymgorfforiad o ras rwyf eisoes yn ei gwneud: y ras i gwblhau fy ngradd eleni;  y ras i fod yn fam dda;  y ras i fod yn wraig, yn ferch, yn ffrind, yn berson da.  Ac mae cymryd rhan, i mi, yn golygu ennill.

Dywedwch pam mae iechyd meddwl gwell yn bwysig i chi.

Dw i'n berson emosiynol iawn. Rwy'n galon-agored. Yn gyffredinol, rwy'n falch o hynny. Mae'n cyfoethogi fy mherthnasoedd gyda’m ffrindiau a'm teulu ac yn gwneud bywyd yn anhygoel o braf, i allu teimlo pob emosiwn posibl heb ofn na chywilydd. Ochr arall y geiniog yw fy mod i'n gallu gorfeddwl a gyrru fy hun i deimlo'n ormodol, gan ddilyn teimladau positif A negyddol i'r eithaf. Mae iechyd meddwl mor bwysig ar gyfer lles, ac mae cael cefnogaeth yn hanfodol i sicrhau eich bod yn gallu rheoleiddio'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau sy'n naturiol ac yn ddisgwyliedig mewn bywyd. Mae rhai ohonom yn ddigon ffodus o allu cynnal iechyd meddwl yn well, ond mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei chael hi'n anodd. Yn hytrach na dioddef yn dawel, mae angen i ni annog ein gilydd i ofyn am gymorth, dod o hyd i gefnogaeth, estyn allan - yn enwedig pan fyddwch chi'n meddwl na allwch chi neu na ddylech, neu na fyddai'n bwysig i neb. Oherwydd, rwy'n addo, mae hi'n bwysig i bobl. Dim ond o edrych ar nifer y bobl sy'n rhedeg yn Hanner Marathon Abertawe eleni gallwch weld bod hyn yn bwysig i lawer o bobl.

Ydych chi wedi rhedeg yn gystadleuol o'r blaen?

Nac ydw. Dyma fydd fy hanner marathon cyntaf.

Dywedwch wrthym sut byddwch yn hyfforddi cyn y ras

Dechreuais hyfforddi pan wnes i gofrestru, gyda rhaglen hyfforddiant i ddechreuwyr a gefais ar e-bost gan drefnwyr y digwyddiad - diolch i chi! Rwy wedi bod wrthi ers chwe wythnos bellach a dw i'n synnu fy mod i wedi dal ati, ac mae'n rhaid i mi ddiolch i'r ofn o redeg hanner marathon ym mis Mehefin am hynny. Mae wedi fy ysgogi ar fy nyddiau gwaethaf i sylweddoli mewn llai na thri mis y byddaf mewn ras, p'un a ydw i wedi paratoi ar ei chyfer ai peidio. Felly dylwn i wneud ffafr enfawr i mi fy hun a sicrhau fy mod i'n paratoi ar ei chyfer nawr!

Dywedwch wrthym am unrhyw beth arbennig y byddwch yn ei wneud i godi arian e.e. gwerthiant teisennau

Rwyf wedi ei rannu ar fy sianeli cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi bod yn effeithiol iawn yn barod (rydw i mor ddiolchgar i'r rhai hynny sydd eisoes wedi cyfrannu – diolch o galon i chi i gyd!). Rwy' hefyd yn cynllunio gwerthiant teisennau gyda ffrindiau.