Gellir derbyn bod cofrestriad proffesiynol/aelodaeth gyda'r sefydliadau canlynol yn bodloni gofynion Iaith Saesneg:

o             Cofrestriad gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) neu Gyngor Meddygol Iwerddon

o             Cofrestriad gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)

o             Cofrestriad gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC)

o             aelodaeth lawn neu gymrodoriaeth drwy arholiad gydag un o Golegau Brenhinol Meddygol y DU neu Iwerddon (aelodau'r Academi - AOMRC)

 

Rhaid eich bod wedi cofrestru neu ailddilysu yn ystod y 5 mlynedd diwethaf er mwyn i'r rhain gael eu hystyried yn ddilys.

 

BETH OS YW FY MHRAWF NEU GYMHWYSTER Y TU HWNT I’R CYFNOD DILYSRWYDD?

Rhaid i’r holl brofion a chymwysterau fod wedi eu hennill o fewn nifer penodol o flynyddoedd cyn dechrau eich cwrs gyda ni. Os ydych yn meddu ar un o’r profion neu gymwysterau cymeradwy a restrir uchod sy’n bodloni gofynion safonol y rhaglen, ond enillwyd y tu hwnt i’r cyfnod dilysrwydd, gall fod yn bosib eich derbyn o hyd os ydych wedi parhau i astudio neu weithio drwy gyfrwng y Saesneg ers sefyll y prawf.

Er enghraifft:

  • Os ydych wedi cwblhau blwyddyn astudio 1 yn llwyddiannus ar lefel uwchradd, israddedig neu ôl-raddedig yn Saesneg yn ystod y 10 mlynedd ers dyddiad dechrau’r rhaglen – darparwch lythyr, trawsgrifiad neu dystysgrif gan yr ysgol neu goleg sy’n cadarnhau bod yr astudio drwy gyfrwng y Saesneg;
  • Os ydych wedi gweithio mewn Gwlad sy’n Siarad Saesneg yn Bennaf am gyfnod sylweddol o amser ers cwblhau eich prawf neu gymhwyster Saesneg cymeradwy – darparwch CV manwl sy’n nodi natur y gwaith;
  • Os ydych wedi gweithio drwy gyfrwng y Saesneg mewn unrhyw wlad arall am gryn dipyn o amser ers cwblhau eich cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy, efallai y bydd yn bosibl eich eithrio rhag sefyll prawf Saesneg.

    Rhowch eirda i ni gan eich cyflogwr yn cadarnhau eich bod wedi gweithio'n ffurfiol yn Saesneg. Rhaid i eirda roi enghreifftiau penodol o sut rydych chi'n defnyddio pedair elfen yr Iaith Saesneg (Darllen, Ysgrifennu, Gwrando a Siarad) yn eich gweithle bob dydd.Dylai eich canolwr fod yn  rheolwr llinell i chi neu'n gyfrifol am y cwmni/sefydliad. Ni allwn dderbyn geirdaon gan ffrindiau nac aelodau o'r teulu.  Os ydych wedi gweithio mewn sawl rôl ers cwblhau eich cymhwyster Iaith Saesneg derbyniol, efallai y gofynnir i chi ddarparu geirda gan bob un o'r sefydliadau lle rydych chi wedi gweithio.Dylai'r geirdaon gynnwys stamp cyflogwr a chyfeiriad e-bost swyddogol cyflogwr. Ni dderbynnir geirdaon o gyfrifon Hotmail neu Gmail y canolwr.

    Caiff geirdaon eu hasesu fesul achos.  Nid yw darparu geirda yn gwarantu eithriad o brawf Saesneg.

English-language-employer-reference-form-welsh (Ffurflen Adroddiad Canolwr Iaith Saesneg i Gyflogwyr)