Beth Yw Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS)?

Bydd angen rhif Cadarnhad Derbyn i Astudio ar fyfyrwyr rhyngwladol sy’n gwneud cais am Fisa Myfyrwyr Haen 4.Mae’r rhif hwn yn cadarnhau i Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) eich bod wedi cael eich derbyn i astudio mewn prifysgol ddilys yn y DU. Unwaith y byddwch wedi bodloni nifer o amodau, gan gynnwys derbyn cynnig diamod, anfonir datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio atoch a fydd yn cadarnhau eich rhif CAS.

Sicrhau Eich Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS)

Cwestiynau Cyffredin

Pryd byddaf yn derbyn fy Nghadarnhad Derbyn i Astudio?

Gallwn ddechrau gweithio ar eich datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio unwaith y byddwch wedi cyflwyno'r holl wybodaeth hanfodol yn unol â'r cyfarwyddiadau uchod. Gallai gymryd hyd at 10 diwrnod i gyflwyno datganiadau Cadarnhad Derbyn i Astudio. Fodd bynnag, rydym yn ymdrechu i'w hanfon yn gynt na hynny, ac mae myfyrwyr yn eu derbyn yn gynt na'r dyddiad hwn yn y rhan fwyaf o achosion. Fe'ch anogir yn gryf i ddarparu'r dogfennau angenrheidiol cyn gynted â phosibl.

Ymholiadau A fyddaf yn derbyn Cadarnhad Derbyn i Astudio ar y cyd? Beth yw'r dyddiad cau? Sut ydw i'n gwneud cais am fisa?

MYFYRWYRRHYNGWLADOL @BYWYDCAMPWS

Mae ein hymgynghorwyr hyfforddedig ym maes mewnfudo wrth law i'ch helpu drwy'r broses gwneud cais am fisa.

Gallant hefyd eich helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych ynglŷn â bod yn fyfyriwr rhyngwladol yn y DU.