Gofynion Mynediad

Mae Lefelau T yn ddyfarniad newydd sydd ar gael i fyfyrwyr yn Lloegr, sy'n cyfateb i dri chymhwyster Safon Uwch. Maent yn dwyn pwyntiau tariff UCAS a gellir eu defnyddio i gael mynediad at gyrsiau Addysg Uwch. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr â Lefelau T ac yn cydnabod yn llawn eu bod yn gyfwerth â chymwysterau Safon Uwch a thariff pwyntiau UCAS.

Pwyntiau Tariff UCASGradd gyffredinol Lefel TLevel A
168 Rhagoriaeth* (A* ar gyfer yr elfen graidd a rhagoriaeth ar gyfer yr arbenigedd galwedigaethol) AAA*
144 Rhagoriaeth AAA
120 Teilyngdod BBB
96 Pasio (C neu uwch ar gyfer yr elfen graidd) CCC
72 Pasio (D neu E ar gyfer yr elfen graidd) DDD

Yn union fel unrhyw gymwysterau eraill, byddwn yn gwerthuso cynnwys a deilliannau dysgu'r cwricwlwm Lefel T yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn eich paratoi'n ddigonol ar gyfer y rhaglen astudio o'ch dewis.

Mae gan rai cyrsiau rydym yn eu cynnig ofynion pwnc penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn cael eich ystyried am fynediad. Os nad yw'r gofynion hyn yn cael sylw digonol yn y cwricwlwm lefel T, efallai na fydd y cymhwyster hwn yn addas ar gyfer cael mynediad i'r cyrsiau penodol hynny.

Mae ein gofynion mynediad Lefel T wedi'u nodi isod. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad hyn, anfonwch neges atom yn astudio@abertawe.ac.uk a byddwn ni'n rhoi rhagor o wybodaeth i chi ar sail eich amgylchiadau chi.

Cyfadran Y Dyniaethau A'r Gwyddorau Cymdeithasol

Y Gyfadran Gwyddoniaeth A Pheirianneg

Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd A Gwyddor Bywyd [Anghlinigol]

Rhaglenni'r Ysgol Feddygaeth, Iechyd A'r Gwyddorau Bywyd [Clinigol]