Os oes gennych chi anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol efallai eich bod yn gymwys i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).
Diben y lwfans hwn yw talu am unrhyw gostau neu dreuliau ychwanegol sy'n codi wrth i chi astudio o ganlyniad i'ch anabledd. Ni fydd y lwfans yn talu am:
- Gostau sy'n gysylltiedig ag anabledd y byddai'n rhaid i chi eu talu pe bach yn fyfyriwr ai peidio
- Costau astudio sy'n gyffredin i bob myfyriwr
- Gofal Personol. Cysylltwch ag un o'n Gweithwyr Achos Anableddau os oes angen cyngor arnoch o ran talu costau gofal personol.
Mae pedair adran yn rhan o'r lwfans i dalu costau mewn meysydd gwahanol:
- Lwfans cyfarpar arbenigol
- Lwfans Cynorthwywyr Anfeddygol
- Lwfans costau cyffredinol/gwariant arall
- Costau Teithio
I dderbyn gwybodaeth bellach am y Lwfans Myfyrwyr Anabl cysylltwch â'r Tîm Anabledd