Mae’r Ysgol Reolaeth yn cynnal Ysgol Haf breswyl tri diwrnod o hyd bob mis Gorffennaf.
Fe’i dyluniwyd i roi blas i chi ar astudio yn y Brifysgol ac mae’n berffaith os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio Rheoli Busnes, Cyfrifeg a Chyllid, Economeg neu Farchnata.
BYDD YR YSGOL HAF YN RHOI’R CYFLE I CHI:
Disgleiriwch ymhlith eich cyfoedion oherwydd y bydd yn atgyfnerthu eich datganiad personol a’ch cais UCAS
Gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau
Magwch brofiad drwy fynd i weithdai a arweinir gan academyddion sy’n flaenllaw'n rhyngwladol
Cael blas go iawn ar fywyd prifysgol
Eich helpu i ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy hollbwysig hynny a fydd yn hanfodol yn eich gyrfa yn y dyfodol
DIWEDDARIAD:
Oherwydd yr heriau presennol ynghylch Covid-19, mae Ysgol Haf yr Ysgol Reolaeth ym mis Gorffennaf 2020 wedi'i chanslo. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ardrefniadau eraill a byddwn yn cysylltu cyn bo hir â rhagor o wybodaeth.
Os oes diddordeb gennych gymryd rhan yn ein gweithgareddau Ysgol Haf yn y dyfodol / Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio somsummerschool@abertawe.ac.uk
Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer ein Ysgol Haf
Clywch gan rai o'n myfyrwyr blaenorol
“Roedd yr Ysgol Haf yn gyfle gwych i wneud ffrindiau ac i gael dan wyneb y pwnc y dymunwch ei astudio yn y brifysgol.
“Roedd y tri diwrnod yn llawn sesiynau rhyngweithiol yn defnyddio achosion busnes gwirioneddol a oedd yn wych ar gyfer deall beth fyddai effaith ein graddau yn y byd sydd ohoni.
“Yn ogystal â chael profiadau gwych yn y dosbarth, roedd y profiadau y tu allan i’r dosbarth yn gofiadwy hefyd ac mae gennyf gymaint o ffrindiau agos hyd heddiw yn sgil hynny."
Sophie Mahoney
Luke Jennings
“Roeddwn wrth fy modd â’r syniad o gael blas ar fywyd prifysgol cyn cofrestru hyd yn oed. Roeddwn yn hoff hefyd o’r syniad o gael cyfle i weld sut beth fyddai astudio holl bynciau’r Ysgol Reolaeth – o Fusnes a Chyfrifeg a Chyllid i Farchnata ac Economeg. Byddwn yn cynghori unrhyw un i ymgeisio ar gyfer yr Ysgol Haf, mae’n eich helpu i fod ar y blaen a defnyddiais fy mhrofiad hyd yn oed i roi cychwyn ar fy natganiad personol."