Logo Achredu CIPD

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi cyflawni carreg filltir bwysig drwy ennill achrediad gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) am ei rhaglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol uchel ei bri.

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn ategu ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu addysg o safon uchel a meithrin rhagoriaeth ym maes adnoddau dynol (AD).

Datganodd Dr Jocelyn Finniear, Pennaeth y grŵp Pobl a Sefydliadau: “Mae'n bleser i ni gyhoeddi bod ein rhaglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol wedi cael ei hachredu gan y CIPD. Mae'r achrediad hwn yn dangos ein hymroddiad i ddarparu addysg o'r radd flaenaf sy'n meithrin y sgiliau y bydd eu hangen ar ein myfyrwyr i ragori ym maes adnoddau dynol.” 

Mae'r CIPD, y corff proffesiynol mwyaf yn Ewrop ar gyfer adnoddau dynol a datblygu pobl, yn pennu safonau cadarn, yn datblygu galluoedd ac yn cysylltu cymuned fyd-eang o weithwyr proffesiynol ym maes AD a phobl. Drwy ei Siarter Frenhinol yn unig, mae'r CIPD yn dyfarnu statws siartredig a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan ei wneud yn awdurdod uchel ei barch yn y diwydiant.

Mae gwaith y CIPD yn cwmpasu amrywiaeth o swyddogaethau hanfodol, gan gynnwys pennu meincnodau yn y diwydiant, darparu cyrsiau a chymwysterau sy'n hybu gyrfaoedd, cynnig gwasanaethau ymgynghori i sefydliadau i wella eu perfformiad o ran AD, cynnal ymchwil a chynghori llunwyr polisi ar faterion sy'n ymwneud ag AD.

Mae gan y CIPD, a sefydlwyd ym 1913 ac y dyfarnwyd Siarter Frenhinol iddo yn 2000, bron 160,000 o aelodau ledled y byd. Ef yw'r unig gorff proffesiynol sydd wedi'i awdurdodi i ddyfarnu statws siartredig unigol i weithwyr proffesiynol ym maes AD a dysgu a datblygu.

Mae achrediad y CIPD yn gymeradwyaeth uchel ei bri a ddyfernir i sefydliadau, cyrsiau a darparwyr addysgol sy'n bodloni safonau addysgol a phroffesiynol manwl y CIPD. Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi'i dynodi'n Ddarparwr Rhaglen Achrededig gan y CIPD. Dyma gyflawniad sy'n cyflwyno buddion sylweddol i fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar y cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol.

Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r MSc Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe'n cael y fraint o ymaelodi â’r CIPD fel myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, caiff eu haelodaeth eu dyrchafu i Aelodaeth Gyswllt y CIPD, ac yna cânt yr opsiwn o gyflwyno cais i uwchraddio i Aelodaeth Siartredig*.

Mae manteision niferus yn deillio o ennill cymhwyster gan y CIPD. Mae cymwysterau'r CIPD yn uchel eu parch ym maes AD, gan ddilysu ymrwymiad y deiliad i ddysgu parhaus ac arferion gorau. Ar ben hynny, gall meddu ar gymhwyster gan y CIPD wella rhagolygon gyrfa a chyflogau posib yn sylweddol. Mae ymchwil gan wefan swyddi Reed yn nodi bod gweithwyr proffesiynol ym maes AD sydd wedi'u hardystio yn tueddu i ennill £10,000 yn fwy, ar gyfartaledd, na gweithwyr ar lefelau tebyg sydd heb eu hardystio. Gall cyflog blynyddol rheolwyr a chyfarwyddwyr AD sydd wedi'u hardystio gan y CIPD fod yn fwy na £60,000.

I'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes AD a manteisio ar achrediad gan y CIPD, mae rhaglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfle i gael addysg o safon uchel a'r gydnabyddiaeth sy'n deillio o gymhwyster gan y CIPD. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys buddion cynhwysfawr y CIPD sydd ar gael yn ystod y cwrs ac ar ôl ei gwblhau, ewch i dudalen ddynodedig y cwrs.

* Sylwer bod yn rhaid talu ffïoedd ychwanegol i ymaelodi â'r CIPD. Os yw graddedigion ein MSc Rheoli Adnoddau Dynol am gyflwyno cais i uwchraddio i Aelodaeth Siartredig, sylwer na fydd Prifysgol Abertawe'n cymryd rhan yn y broses hon na'r penderfyniad. Gwneir y penderfyniad gan y CIPD ar sail llwybrau gyrfa a thystiolaeth unigolion.

Rhannu'r stori