Dr Hany Abdel-Lati receiving award

Dyfarnwyd gwobr rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu yn sgil enwebiad gan y myfyrwyr i Dr Hany Abdel-Latif, darlithydd yn yr Adran Economeg, yn seremoni raddio Dosbarth Economeg 2019 ddydd Mercher 14 Gorffennaf.

Ymunodd Hany â Phrifysgol Abertawe yn 2011 yn ymgeisydd PhD. Roedd traethawd ymchwil ei PhD yn edrych ar sianeli trosglwyddo argyfyngau ariannol i economïau go iawn mewn gwledydd datblygol. Mae'r darn hwn o ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar ganlyniadau'r farchnad lafur, sef diweithdra, deinameg ergydion ar y sector anffurfiol a llafur plant.

Mae ganddo brofiad addysgu Economeg ers 2003 ym Mhrifysgol Mansoura, lle bu'n diwtor Economeg.Yn y cyfamser, bu’n aelod o dîm sefydlol yr "Uned Sicrhau Ansawdd a Gwerthuso Perfformiad"  yr un brifysgol. Drwy gydol ei yrfa, mae Hany wedi cymryd rhan yn rhaglen "Dadansoddwyr Ariannol Siartredig"  y Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yn Cairo, lle bu'n ddarlithydd ac yn rheolwr is-dechnegol.

Mae ei arbenigedd ymchwil mewn Economeg Gymhwysol, yn enwedig ym meysydd Macro-economeg, Datblygu, Ariannol ac Economeg Lafur. Yn benodol, prif ddiddordeb Hany yw modelu ergydion allanol a'u mecanweithiau trosglwyddo.Mae ganddo gefndir cryf mewn Econometreg, yn enwedig data panel deinamig, newidynnau dibynnol cyfyngedig, a modelau ymatchwelaidd fector.

Yn ogystal, Hany yw sylfaenydd a llywydd "Cymdeithas Economaidd ysgolheigion yr Aifft," lle mae'n arwain grŵp o economegwyr ifanc yn Ewrop, Affrica ac UDA, a'r nod yw sbarduno ymchwil fanwl ar economi'r Aifft.

Wrth enwebu eu darlithydd, tynnodd y myfyrwyr sylw at ba mor gefnogol y mae o'u hastudiaethau: pa mor bwysig ydyw eu bod yn deall, a sut mae'n defnyddio adnoddau o’r we a fideos ar YouTube i ategu ei addysgu.

Roedd sylwadau rhai o'r myfyrwyr yn cynnwys: "Mae'r angerdd sydd ganddo at y pynciau mae'n eu haddysgu heb ei ail, ac mae hyn yn amlwg yn dylanwadu ar y myfyrwyr"
a
"Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi cwrdd â darlithydd mor gyflawn â Hany, mae'n gyfeillgar bob amser a gall gael sgwrs am bynciau academaidd a phynciau nad ydynt yn rhai academaidd."

Rhannu'r stori