Bellach mae’r Swyddfa Safonau DPP wedi dyfarnu bod gradd MSc mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch yr Ysgol Reolaeth yn hyfforddiant DPP achrededig.

Mae'r rhaglen wedi bodloni'r gweithgarwch dysgu gofynnol ar gyfer safonau a meincnodau Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae DPP yn sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf a’u bod yn bodloni  safonau uchel y sector maent yn gweithio ynddo.

Caiff ei chyflwyno drwy'r Academïau Dysgu Dwys, ac mae gan yr MSc mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch ddau lwybr;

Meddai'r Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth:

"Roeddwn wrth fy modd i glywed bod y radd MSc hon wedi derbyn achrediad gan y Swyddfa Safonau DPP.Mae'n hynod bwysig i ni yn yr Ysgol Reolaeth fod ein rhaglenni Meistr arbenigol yn canolbwyntio ar ddiwydiant a’u bod yn berthnasol i'r farchnad swyddi.Llongyfarchiadau i dîm y rhaglen am gyflawni'r canlyniad hwn".

Meddai Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Rheoli  Iechyd a Gofal Uwch, Dr Roderick Thomas:

"Mae'n wych cael cydnabyddiaeth bellach fod ein MSc newydd mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch wedi derbyn achrediad gan y Swyddfa Safonau DPP fel datblygiad proffesiynol parhaus.Mae hyn yn ychwanegu at ein hachrediad presennol gyda'r Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol (FMLM).Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd diwydiannol y rhaglen hon a'i pherthnasedd i'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol".

Rhannu'r stori