Pennaeth yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi ei waith diweddaraf, llyfr a olygwyd â gofal mawr o'r enw Creative (and Cultural) Industry Entrepreneurship in the 21st Century.

Mewn cyfraniad pwysig at faes ymchwil i entrepreneuriaeth, mae’r Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi ei waith diweddaraf, llyfr a olygwyd â gofal mawr o'r enw Creative (and Cultural) Industry Entrepreneurship in the 21st Century. Mae’r llawysgrif hon yn Gyfrol 18 yn y gyfres uchel ei bri Comtemporary Issues in Entrepreneurship Research (CIER) a gyhoeddir gan Emerald, ac mae'n addo gweddnewid ein dealltwriaeth o weithgareddau entrepreneuraidd yn y diwydiannau creadigol.

Gan gydweithredu â’r cyd-olygyddion gwadd, Dr Inge Hill, Dr Sara R S T A Elias a Dr Stephen Dobson, mae'r Athro Jones yn ymchwilio i entrepreneuriaeth greadigol a diwylliannol, gan bwysleisio'r rôl hanfodol sydd gan y diwydiannau hyn wrth feithrin twf cyflogaeth ac economaidd, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n wynebu heriau economaidd.

Mae'r llyfr, a gyflwynir fel y gyfrol gyntaf mewn archwiliad dwy gyfrol, wedi'i rannu'n dair adran wahanol. Mae'r adran gyntaf yn darparu myfyrdodau cysyniadol ar entrepreneuriaeth greadigol a diwylliannol, gan gynnig sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer deall deinameg y sector ffyniannus hwn. Mae'r ail adran yn archwilio gwydnwch mentrau creadigol a diwylliannol a'u gallu i ymaddasu, gan daflu goleuni ar eu gallu i ymdopi â heriau a pharhau i dyfu. Mae'r adran olaf yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar amrywiaeth o is-sectorau creadigol, gan gynnig trosolwg cynhwysfawr o'r dirwedd amrywiol yn y diwydiannau creadigol.

Mae'r Athro Jones, sydd hefyd yn Olygydd y gyfres o lyfrau CIER, wedi mynegi pwysigrwydd y gwaith arloesol hwn, gan ddweud "Dyma lyfr pwysig mewn maes lle nad oes llawer o ymchwil. Mae'n hanfodol ein bod yn deall pwysigrwydd y sector creadigol yn llawn a sut gellir ei gefnogi'n effeithiol a'i alluogi i greu cyflogaeth a gweithgarwch economaidd mewn ardaloedd sydd yn aml yn profi dirwasgiad economaidd.

Mae'r gyfrol gyntaf yn cynnwys 13 pennod, pob un yn cyfrannu safbwynt unigryw a dealltwriaeth werthfawr o'r brif thema. O fframweithiau damcaniaethol i gymwysiadau ymarferol, mae'r llyfr yn addo bod yn adnodd hanfodol ar gyfer ysgolheigion, llunwyr polisi ac ymarferwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd am feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r dirwedd entrepreneuraidd greadigol a diwylliannol.

I'r rhai sy'n awyddus i archwilio'r gwaith arloesol hwn, mae'r llyfr ar gael ar-lein ar wefan Emerald Insight. Gall darllenwyr hefyd gyrchu Cyfrol 18 o gyfres CIER yma lle mae gwledd o wybodaeth yn aros am y rhai sydd â diddordeb yn y croestoriad rhwng entrepreneuriaeth a'r diwydiannau creadigol.

Rhannu'r stori