person sy'n gweithio ar liniadur

Pan aeth Prifysgol Abertawe i mewn i’r cyfnod cyfyngiadau symud yn gynharach eleni, symudodd addysgu ac asesu i fod ar-lein.   Wrth inni symud bellach tuag at ddechrau blwyddyn academaidd newydd, mae staff yn adolygu eu dulliau addysgu’n barhaus er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau allweddol mewn modd diogel ac effeithiol.

Mae gan yr Athro Steve Cook, Pennaeth yr Adran Economeg ym Mhrifysgol Abertawe, hanes hir o ddatblygu a defnyddio adnoddau addysgu ar-lein. O ganlyniad i’w waith, mae’r Athro Cook bellach yn aelod o bwyllgor llywio bach ledled y DU ar gyfer symposiwm cenedlaethol ynghylch addysgu Economeg ar-lein: Symposiwm Rhithwir y Rhwydwaith Economeg.

Mae’r symposiwm yn archwilio addysgu, dysgu ac asesu ar-lein, sydd i gyd o ddiddordeb anferth yn yr amgylchedd presennol. Fel rhan o hyn, mae’r symposiwm yn trafod ac yn cyflwyno amrywiaeth o gyfarpar ac ymagweddau er mwyn gwella addysg ar-lein.

Cynhaliwyd y symposiwm ar ddyddiau Llun olynol ym mis Mehefin a bydd yn dychwelyd am sesiwn derfynol ym mis Medi er mwyn adolygu profiadau staff yn ystod y cyfnod presennol o weithio o bell. Mae’r Athro Cook wedi datblygu deunyddiau ynghylch addysgu dulliau meintiol ar gyfer y symposiwm, sy’n adeiladu ar ei ymchwil i ddefnydd dyblygu a dulliau gwrthdro ehangach wrth ddarparu ac asesu econometreg a rhagweld cyfres amser.  At hynny, bu’r Athro Cook yn banelydd ar gyfer y sesiwn Holi ac Ateb genedlaethol 'Teaching with Data' a bydd yn cyd-olygu rhifyn arbennig o’r International Review of Economics Education sy’n gysylltiedig â’r symposiwm.

Ceir manylion pellach ar wefan y Rhwydwaith Economeg.

Mae’r Athro Steve Cook yn athro brwdfrydig ar draws ystod o feysydd ac mae wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol sawl gwaith am ei addysgu.

Rhannu'r stori