Darlithydd Cyswllt Terry Filer yn derbyn ei gwobr

Mae staff academaidd yn yr Ysgol Reolaeth wedi cael cydnabyddiaeth am ragoriaeth addysgu, gan ennill nifer o wobrau unigol.

Mae'r rhain yn cynnwys dwy wobr unigol mewn Economeg:

  • Dr Hany Abdel-Latif, Economeg, Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysgu a Dysgu
  • Dr Brian Varian, Economeg, Clod am y Ddarlith Newydd Orau ar gyfer y rhwydwaith Economeg

Yn ogystal, cydnabu'r Ysgol Reolaeth yn y gwobrau blynyddol Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) cyntaf erioed. Yn gynt eleni, cafodd staff gyfle i enwebu staff mewn sawl categori, ac anfonwyd rhestr fer o enwebiadau i SALT i'w hadolygu. Roedd yr enwebiadau fel a ganlyn:

Gwobrau Addysgu Abertawe

  •  Busnes – Paul Davies
  • Busnes – Dr Maggie Miller
  • Economeg – Dr Wayne Thomas

 Gwobrau Cwrs Abertawe

  • Busnes – Paul Davies (Newydd/Gwelliant)
  • Economeg – Dr Lucy Minford (Arloesi Addysgol)
  • Cyfrifeg a Chyllid – Darlithydd Cyswllt Terry Filer / Lesley Davies (TEL)

Ar ôl eu hadolygu, dewisodd SALT yr enillwyr canlynol o'r Ysgol:

  • Dr Maggie Miller – Gwobr Addysgu Ysgol Reolaeth Abertawe 2019
  • Darlithydd Cyswllt Terry Filer / Lesley Davies (TEL) – Gwobr Cwrs Abertawe Prifysgol Abertawe ar gyfer Dysgu â Chymorth Technoleg

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.

Rhannu'r stori