Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i lansio Academïau Dysgu Dwys arbenigol a fydd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth trawsnewidol ar draws iechyd ataliol, Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth, ac arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae prifysgolion blaenllaw yng Nghymru wedi creu amrywiaeth o gyrsiau hyblyg sy’n cynnwys cyfleoedd lefel gradd yn y meysydd hyn sy’n tyfu. Maen nhw’n agored i weithwyr proffesiynol o’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd ledled y byd i ddysgu gyda’i gilydd. 

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, mae’r Academïau Dysgu Dwys hefyd yn darparu ymchwil a gwasanaethau ymgynghori wedi’u teilwra’n arbennig. Bydd hyn yn helpu sefydliadau unigol i adnabod, i ddatblygu ac i gydweithio ar arferion arloesol i helpu gwrdd â’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydyn ni nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer y rhaglenni pwrpasol, gyda mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Bydd y cyrsiau, gyda rhai ohonynt ar gael o bell, yn hyfforddi ac yn paratoi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr byd-eang i adeiliadu systemau iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol.

Bydd yr academiau yn darparu ar gyfer y galw rhyngwladol gan ddysgwyr proffesiynol yn y DU, Ewrop a’r tu hwnt. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu sefyllfa Cymru ymhellach fel arweinydd byd-eang o ran arloesi ac arwain yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y tair Academi Dysgu Dwys yn dechrau gweithgareddau yn ystod 2021, gyda phob un yn arbenigo mewn pwnc a nodwyd fel maes allweddol o dwf i’r dyfodol ar gyfer y marchnadoedd iechyd a gofal cymdeithasol byd-eang:

  • Mae'r ‘Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth’ a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig cyrsiau addysgol, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth.
  • Bydd ‘ALPHAcademy’ Prifysgol Bangor yn canolbwyntio ar atal a bydd yn cynnig cyfleoedd i gefnogi ac i ddatblygu arweinwyr sy’n gallu meddwl gyda safbwynt ar draws sectorau a gwasanaethau, a chyflawni newid gyda gwybodaeth gadarn a rhwydweithiau eang.
  • Mae ‘Academi Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd a Chomisiwn Bevan – ac yn canolbwyntio ar arloesi a thrawsnewid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Y nod yw grymuso gweithluoedd ym mhedwar ban byd gyda’r arbenigedd, y sgiliau a’r hyder i yrru’r gwaith o ailgynllunio systemau iechyd a gofal er gwell, gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion, gan hybu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau ar yr un pryd.

Bydd pob cwrs yn croesawu ymgeiswyr sy’n gweithio ar draws systemau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd byd-eang. Mae ysgoloriaethau Academïau Dysgu Dwys ar gael i’r rheini sy’n gweithio yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac i’r rheini sy’n dymuno ailhyfforddi i ymuno â’r sector.

Mae pob academi yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu amser llawn, rhan amser a hyblyg. Bydd y cymwysterau’n cynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar lefel Addysg Weithredol, Tystysgrifau i Raddedigion, Diplomâu a Graddau Meistr. Mae academïau penodol hefyd yn darparu cyfleoedd lefel Doethuriaeth i ymgeiswyr.

Bydd hyfforddi dysgwyr o’r diwydiant, maes iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i gilydd yn hybu cydweithio ac arloesi ar draws sectorau. Bydd hyn yn caniatáu cyd-ddatblygu sgiliau a phartneriaethau gwerthfawr i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol trawsnewidiol.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth: “Mae’r Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth yn rhan o rwydwaith rhyngwladol sy’n datblygu, gan ddarparu addysg o ansawdd uchel, ymchwil cydweithredol ac ymgynghoriaeth i gefnogi’r gwaith o ddeall a gweithredu Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth yn y DU ac mewn gwledydd ar draws y byd.”

Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-ganghellor Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Bangor: “Mae diogelu iechyd ein cenedl yn gofyn am ymdrech sylweddol a pharhaus i atal salwch ac i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol da. Mae atal yn golygu helpu pobl i aros yn iach, yn hapus ac yn annibynnol am gyn hired â phosibl. Gwyddom fod atal yn gweithio a’i fod yn gallu darparu manteision cymdeithasol sylweddol, a all, yn eu tro, hybu iechyd ein heconomi mewn cylch daionus.

Felly, bydd mwy o fuddsoddi mewn atal ac mewn datblygu’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i sbarduno newid yn arwain at fanteision sylweddol ledled Cymru. Bydd yr academïau arloesol hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i arweinwyr ac i ddarpar arweinwyr o bob sector i ddysgu drwy wneud, ac i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a chydweithio ar sail tystiolaeth.”

Dywedodd Len Richards, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: Drwy amrywiaeth eang o gyrsiau ac adnoddau, mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol, bydd yr Academi Dysgu Dwys yn cefnogi cenedlaethau o arweinwyr nawr ac yn y dyfodol, gan eu harfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i arloesi drwy’r heriau ar ôl Covid a thu hwnt ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol er budd dinasyddion ledled Cymru.”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gael cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Academïau Dysgu Dwys. Yr academïau pwrpasol hyn yw’r cyntaf yn y byd ac rydym yn hynod falch bod Cymru’n arloesi’r ffordd ymlaen mewn meysydd mor bwysig. Bydd Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, ac iechyd ataliol yn feysydd twf mawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae hi’n hollbwysig bod ein harweinwyr i'r dyfodol yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth hollbwysig hyn.

“Mae arloesi parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau piblinell o ddarganfyddiadau a datblygiadau a fydd yn torri tir newydd. Drwy uno gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a diwydiant a'u hannog i ddysgu ac i weithio gyda’i gilydd, bydd yr academïau hyn yn sefydlu sylfaen ar gyfer arloesi cynaliadwy a chydweithredol am flynyddoedd i ddod.”

Ceir rhagor o wybodaeth am yr Academïau newydd hyn yn: https://lshubwales.com/cy/ADD-Cymru

Rhannu'r stori