cmi logo

Mae'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI- Chartered Management Institute) bellach yn cynnig Statws Rheolwr Siartredig Sefydledig i fyfyrwyr ar raglenni achrededig. 

Mae hyn yn golygu ar ôl cwblhau naill ai'r rhaglen israddedig (gan gynnwys prosiect y flwyddyn olaf), neu'r rhaglen ôl-radd lefel 7, bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio'r llythrennau fCMgr ar ôl eu henw.

Mae hyn yn ychwanegol at dderbyn Tystysgrif lefel 5 y CMI (yn amodol ar gwblhau a phasio'r rhaglen i israddedigion gan gynnwys prosiect y flwyddyn olaf), a Thystysgrif Lefel 7 y CMI ar lefel ôl-raddedig (yn amodol ar gwblhau a phasio modiwlau penodol).

Yn ogystal â hyn, mae'r flwyddyn mewn diwydiant y mae'r Ysgol Reolaeth yn ei chynnig ar y rhaglen 4-blynedd i israddedigion, hefyd yn cyfrif tuag at y 3 mlynedd o brofiad sydd ei angen i ymgeisio am Statws Rheolwr Siartredig llawn.

Mae hwn yn ychwanegiad newydd a chyffrous i ychwanegu gwerth at eich gradd a sicrhau eich bod un-cam-o-flaen y dorf wrth ymgeisio am swyddi. Mae'r statws Rheolwr Siartredig Sefydledig yn rhoi adnabyddiaeth broffesiynol gynharach i ddysgwyr ac yn helpu hwyluso eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Boed yn radd rheoli busnes cyffredinol neu'n un o'n llwybrau arbenigol, mae pob un o'n cyrsiau wedi'u strwythuro i ganiatáu hyblygrwydd er mwyn i chi gael teilwra eich modiwlau, ac yn y pen draw, eich gradd, i weddu i'ch dyheadau gyrfaol datblygol. Darllenwch fwy am ein rhaglenni rheoli busnes.

Y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) yw'r unig gorff proffesiynol Siartredig yn y DU sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth ym maes rheoli ac arweinyddiaeth. Darllenwch fwy yma.

Rhannu'r stori