Fe wnaethon ni gynllunio'r rhaglen hon i wella rhaglenni gradd traddodiadol i gyflogwyr drwy sicrhau bod graddedigion yn barod am waith. Rydyn ni wedi creu rhaglen sy'n cadw gweithiwr yn y gweithle am y rhan fwyaf o'r amser, tra byddan nhw’n caffael sgiliau rheoli lefel uwch yn ogystal â galluogi myfyrwyr i fynd drwy brofiad prifysgol gwerth chweil a dwys.

Ar y radd Rheoli Busnes Cymhwysol, mae eich gweithwyr yn derbyn addysg o’r radd flaenaf sydd wedi’i chynllunio o amgylch anghenion eich busnes ’. Bydd ganddynt yr offer i ddelio ag ystod eang o bynciau gan gynnwys AD, Marchnata, Cyllid, y Gadwyn Gyflenwi, Rheoli Gweithrediadau, Rheoli Prosiectau, Arloesi ac Arweinyddiaeth.

Bydd y cwrs hwn yn galluogi'ch gweithwyr i:

  • Ennill gradd wrth weithio;
  • Ennill sgiliau rheoli;
  • Cael profiad busnes yn y byd go iawn;
  • Hyrwyddo eu gyrfa.

Beth yw ein myfyrwyr blaenorol yn meddwl am y cwrs?

merch yn gwenu

"Mae’r Radd Rheoli Busnes Cymhwysol yn gwrs gwych sy’n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau i ehangu eich persbectif o’r amgylcheddau gwaith rydym ynddynt bob dydd. Mae’r staff yn Cambria a thîm Prifysgol Abertawe sy’n gweithio’n agos â’r rhaglen radd hon wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y myfyrwyr wedi astudio modiwlau deinamig a dymunol i gyfrannu at flwyddyn gyntaf gwych!

"Rydw i wedi cael cymorth di-fai gan bawb yn safle Llaneurgain Coleg Cambria. O’r diwrnod cyntaf, mae’r staff wedi gwneud ymdrech aruthrol i wneud y profiad dysgu yn un eithriadol. Mae’r holl staff yn gyfeillgar, croesawgar ac mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth i’w rhannu gyda’r myfyrwyr.”

Melissa Molyneux - Gradd Rheoli Busnes Gymhwysol; Myfyriwr y Flwyddyn 2019 – Addysg Uwch Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Arwain Cymru 2019; Prentis Awyrofod Masnachol yn Airbus

merch yn gwenu

"Ar hyn o bryd, rydw i yn ail flwyddyn y Radd Rheoli Busnes Cymhwysol. Rydw i hefyd yn gweithio fel rheolwr yn Kassidy’s Tea Room yn Nhreffynnon. Ers ysgwyddo’r cyfrifoldebau rheoli yn ystod fy mlwyddyn gyntaf y cwrs gradd, rydw i’n gyfrifol am recriwtio, hyfforddi a chyfrifoldebau pwysig eraill. Mae hyn i gyd wedi fy helpu drwy fy astudiaethau ac yn galluogi i gymhwyso’r cyfan mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae’r radd wedi galluogi i fi fagu’r hyder i gwestiynu sefyllfaoedd a meithrin fy sgiliau personol. Mae bod yn gynrychiolydd myfyrwyr wedi rhoi’r cyfle i fi leisio barn dosbarthiadau, a meithrin perthnasau agos gyda myfyrwyr a thiwtoriaid. Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn rhan o’r tîm wnaeth ennill cystadlaethau Busnes yn y Bae gyda Phrifysgol Abertawe. Roedd yn ffordd wych o gael profiad gwerthfawr ac arddangos y sgiliau rydyn ni wedi eu dysgu fel rhan o’r cwrs.”

Stacey Adams - Gradd Rheoli Busnes Gymhwysol