Pennod 6: Epidemig Cudd, Anafiadau Caffaeledig i'r Ymennydd

TROSOLWG O'R PENNOD

Yn y DU a ledled y byd, rydym yn byw gydag "Epidemig Cudd", ond prin y byddwn yn ei drafod. Ynghyd â'r cyflwynydd, Dr Sam Blaxland, bydd Dr Claire Williams yn trafod  yr "Epidemig Cudd" hwn, sef Anafiadau Caffaeledig i'r Ymennydd (ABI) o'i safbwynt hi fel Seicolegydd clinigol. 

Yn y DU, caiff 1 person pob 90 eiliad ei dderbyn i ysbyty gydag amheuon am anaf i'r ymennydd, sy'n golygu bod mwy na 350,000 o bobl yn cael diagnosis o anaf caffaeledig i'r ymennydd bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn wedi gadael olion ar raddfa enfawr, ac mae 1.3 miliwn o bobl bellach yn byw gydag anaf i'r ymennydd yn y DU, ac mae'r effeithiau hir dymor yn bwrw cysgod dros 1 o bob 300 o deuluoedd ar draws y DU, gan gostio mwy na £15 biliwn i economi'r DU bob blwyddyn.

Am ein harbenigwyr

Mae Dr Williams yn ymddiddori mewn datblygu arfau i nodi, diagnosio a thrin pobl ag anafiadau i'r ymennydd. Gall anaf i'r ymennydd gael effaith sylweddol ar swyddogaethau emosiynol unigolyn, a sgîl-effeithiau niwroymddygiadol. Mae Dr Williams a'i thîm wedi datblygu arf SASNOS (sy'n sefyll am St Andrews-Swansea Neurobehavioral Outcomes Scale).   Byddwn yn archwilio beth yw ABI, effaith ABI ar glaf a sut mae  SASNOS Dr Williams a'i thîm yn gallu ein helpu i fynd i'r afael â'r broblem fyd-eang hon.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.